Brycheiniog a`r Beirdd yn yr Oesoedd Canol
Transcription
Brycheiniog a`r Beirdd yn yr Oesoedd Canol
Y Ganolfan Geltaidd Cylchlythyr Rhif 17 Haf 2015 Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies Newsletter No. 17 Summer 2015 Brycheiniog a’r Beirdd yn yr Oesoedd Canol Dr Ann Parry Owen reports on the highly successful ‘Medieval Breconshire and the Welsh Poets’ forum held at Brecon on 16 May 2015. Yn dilyn fforymau llwyddiannus yn Llangollen (2010) ac yn Rhaglan (2011), mentrwyd allan o’r Ganolfan unwaith eto ym mis Mai ar gyfer ein fforwm canoloesol blynyddol. Aberhonddu oedd y dewis amlwg, a ninnau ar fin cyhoeddi golygiad Dr Cynfael Lake o waith y bardd mawr o Frycheiniog, Hywel Dafi, yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr. Yn y bore croesawyd ni’n gynnes i Eglwys Gadeiriol Sant Ioan gan y deon, y Tra Pharchedig Dr Paul Shackerley. A ninnau’n eistedd mwy neu lai yn union dan y fan lle crogai’r Grog Aur, braf oedd gwrando ar yr Athro Madeleine Gray yn trafod pwysigrwydd yr eglwys fel canolfan i bererinion yn yr Oesoedd Canol. Siaradwyr y fforwm yn rhan ganoloesol Coleg Crist Cynhaliwyd gweddill y fforwm yng Ngholeg Crist, a chawsom daith gerdded hynod ddiddorol yno yng nghwmni Mr William Gibbs, a dynnodd ein sylw at fannau o ddiddordeb hanesyddol ac artistig ar y ffordd. Cawsom bedwar papur yn trafod amrywiol agweddau ar Frycheiniog yn y prynhawn. Cerdd ryfeddol Huw Cae Llwyd yn enwi 42 o seintiau Brycheiniog a oedd dan sylw gan Eurig Salisbury, ac mae’n siŵr ei fod yn llygad ei le yn awgrymu mai cerdd crowdfunding oedd hon, a’r bardd yn ceisio codi arian i fynd ar bererindod i Rufain! Trafod agwedd y beirdd at Frycheiniog fel endid daearyddol a gwleidyddol a wnaeth Dr Dylan Foster Evans, a chan Dr Cynfael Lake cawsom ragarweiniad cynhwysfawr i waith Hywel Dafi. Yn olaf, cafwyd ymweliad darluniadol â thai hanesyddol Brycheiniog yng nghwmni Richard Suggett, a dynnodd sylw at ambell i dŷ yr ymwelodd Hywel Dafi a’i gyfoeswyr â hwy ar eu teithiau clera. Trefnwyd y fforwm eleni mewn cydweithrediad â Chymdeithas Brycheiniog, a mawr yw ein diolch i Mr John Gibbs am ei holl gyngor a’i waith yn sicrhau cynulleidfa leol deilwng iawn i ni. Rydym yn hynod o ddiolchgar hefyd i Academi Hywel Teifi am eu nawdd at y dydd, ac i staff yr Eglwys Gadeiriol a Choleg Crist am eu cydweithrediad parod. Eglwys Gadeiriol Sant Ioan, Aberhonddu. YR ATHRO R. GERAINT GRUFFYDD (1928–2015) Collodd y Ganolfan un o’i chefnogwyr pennaf gyda marwolaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, ein Cyfarwyddwr cyntaf, ym mis Mawrth. Gellir darllen teyrnged bersonol iddo gan Dr Ann Parry Owen ar ein gwefan: <http://www.uwp.co.uk/news/2015/03>. The Centre lost one of its greatest supporters with the death in March of Professor R. Geraint Gruffydd, our first Director. A personal tribute to him by Dr Ann Parry Owen is on our website: <http://www.uwp.co.uk/news/2015/03>. CYNHADLEDD AR GYFIEITHU I’R GYMRAEG Sylwa Charles Ashton yn ei gyfrol Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 O.C. hyd 1850 mai ‘cyfieithiadau o’r Saesneg oedd y mwyafrif o’r llyfrau Cymraeg hyd ddechreuad y ganrif bresennol’. Dengys hyn bwysigrwydd cyfieithu mewn cyfnod a welodd dwf hollbwysig mewn llythrennedd ac argraffu yn y Gymraeg. Eto i gyd, esgeuluswyd, hyd yn ddiweddar, yr agwedd hon ar y Gymraeg yn gyffredinol, a’r cyfnod hwn yn arbennig. Er mwyn hybu ymchwil i’r maes ceisiwyd am nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a threfnwyd cynhadledd Gymraeg ei chyfrwng gan Dr Marion Löffler a Dr Heather Williams i’w chynnal ar 7 Mawrth 2015. Cawsom ddiwrnod Y darlithwyr yn sefyll y tu allan i’r Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru llwyddiannus dros ben: cafwyd arolwg meistrolgar o’r maes gan yr Athro Sioned Davies i ddechrau, ac yna ddeg o bapurau i ddilyn ar bynciau mor wahanol â rhwydweithiau cyfieithu a’r syniad o undod cenedlaethol yn y ddeunawfed ganrif, geirfâu gwleidyddol, amaethyddol a cherddorol, ieithwedd fersiynau o Uncle Tom’s Cabin yn y Gymraeg, a dyfodol cyfieithu gweithiau allweddol Y cyfieithiad gwleidyddol cyntaf a gyhoeddwyd dan i’r Gymraeg. Mae recordiadau o’r darlithoedd bellach ar gael ar Borth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a nawdd preifat yn 1716 chyhoeddir trafodion y dydd mewn rhifyn arbennig o Llên Cymru. GEIRIADUR PRIFYSGOL CYMRU Roeddem yn hynod falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £40,500 i ni o’r Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg i helpu i ddatblygu apiau ar gyfer iOS ac Android. Bydd modd defnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru yn hwylus ar ffôn neu gyfrifiadur tabled heb orfod cael cysylltiad allanol. Y syniad yw ehangu mynediad i’r Geiriadur drwy ddarparu rhyngwyneb ar ap modern cludadwy sy’n teimlo’n reddfol ac sy’n hawdd ei ddefnyddio. Bydd tri opsiwn o fewn yr apiau: • lawrlwytho’r holl ddata’r Geiriadur fel y bydd modd defnyddio GPC wedyn heb gysylltiad WiFi/data ffôn symudol; • lawrlwytho popeth ond y dyfyniadau i arbed tua hanner y lle; neu • defnyddio’r data ar lein er mwyn arbed lle storio ar y ddyfais. Bydd y rhyngwyneb yn llawer haws i’w ddefnyddio ar sgriniau llai, ac rydym yn ffyddiog y bydd yr apiau newydd o fudd mawr i lawer o bobl. Bydd yr apiau ar gael yn rhad ac am ddim cyn diwedd y flwyddyn. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan: <www.geiriadur.ac.uk>. Rydym hefyd wedi cofrestru sawl parth .cymru a .wales newydd – er enghraifft, mae modd mynd yn syth i raglen GPC Ar Lein drwy deipio gpc.cymru ym mlwch cyfeiriad (nid chwilio) eich porwr. Rhowch gynnig arno! We were delighted to hear that the Welsh Government has awarded us a grant of £40,500 from the Welsh-language Technology and Digital Media Fund to help develop apps for both the iOS and Android platforms. It will be possible to use Geiriadur Prifysgol Cymru / A Dictionary of the Welsh Language easily on a mobile phone or tablet computer without any external connection. The idea is to broaden access to the Dictionary by providing an intuitive and user-friendly interface with the portability of a modern app. There will be three options within each app: • to download the entire Dictionary so that GPC can be used without a WiFi/mobile phone data connection; •to download everything except the quotations to save about half the space; or • to access the data online in order to save storage space on the device. The interface will be much easier to use on smaller screens, and we are confident that the new apps will be a boon to a large number of people. The apps will be available at no charge before the end of the year. Details will be published on our website: <www.welsh-dictionary.ac.uk>. We have also registered several new .cymru and .wales domains – for instance it is now possible to go straight to GPC Online by typing gpc. wales into your browser’s address box (not the search box). Give it a try! CURIOUS TRAVELLERs Our new four-year AHRC-funded ‘Curious Travellers’ project launched in September last year, with a well-attended day conference in the National Museum, Cardiff. ‘In a Mediterranean Light’ explored the influence of Greece and Rome on Romantic-era travellers to Wales and Scotland, and was timed to coincide with a major international exhibition of the landscape paintings of the Welsh artist Richard Wilson (1714–82), whose work was the subject of a stimulating keynote lecture by Professor Robin Simon. Our collaboration with NMW continues this year in November with ‘Layered Landscapes’, a day exploring the geological aspects of the tours and coinciding with an exhibition devoted to William Smith’s Geological Map of Britain (1815). Throughout the year we have had enthusiastic responses to talks given at events from California to Cardiff; in October, Dr Mary-Ann Constantine will be giving the Thomas Pennant Society Silver Jubilee lecture on Pennant’s home ground at Holywell. The Centre was also closely involved in ‘Maps and Makers’, a series of local walks and talks in the Aberystwyth area which brought artists, academics and the general public together in different types of landscape. European Travellers to Wales Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i’r prosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750–2010’. Bellach, gellir archwilio ein cronfa ddata o ysgrifennu taith ar <http://etw.bangor.ac.uk/cy/node/401> a bydd modd ymweld â’n harddangosfa ‘EwrOlwg: Cymru drwy Lygaid Ymwelwyr o Ewrop 1750–2010’ yn Aberystwyth, Abertawe a Bangor yn ystod 2015–16. People from Continental Europe have come to Wales for all kinds of reasons over the past 250 years, and some two years ago a team of researchers based at three Welsh institutions – Swansea University, Bangor University and the Centre – set out to investigate the texts written by these travellers in a variety of European languages. The AHRC-funded project, ‘European Travellers to Wales 1750–2010’, has had a very busy year. Our database of European travel accounts is now live and searchable at <http://etw.bangor.ac.uk>, and contains details of close to 300 travel texts to Wales by visitors from Europe. Aimed at all kinds of users, from schoolchildren to academics, it provides notes in English on the content of each travel text for those who cannot read the original, for while the vast majority are written in French or German, it also includes Polish, Dutch, Hungarian, Czech and more. On 10 July our ambitious exhibition ‘EuroVisions: Wales through the Eyes of European Visitors 1750–2010’ opened at Amgueddfa Ceredigion in Aberystwyth, displaying a range of artworks loaned from many different institutions, made by visitors from Continental Europe in response to the Welsh landscape or people. These range from little-known sketches of Wales by Mendelssohn (displayed in high-quality facsimile prints) to snowy landscapes of the Ystwyth valley painted by Belgian refugees from the First World War, and also include video clips of artists talking about their work and historic objects relating to travel. Later in the year the exhibition will travel to Swansea, and in 2016 it will visit Bangor, and at each venue there will be a programme of free events for all members of the community to complement the themes. The team have also produced a range of worksheets aimed at primaryschool children who visit, and are currently planning a virtual exhibition of these same artworks, as well as Arddangosfa ‘EwrOlwg’ ar y noson agoriadol yn Aberystwyth / Opening of the ‘EuroVisions’ exhibition in Aberystwyth liaising with the National Library’s education unit to produce teaching resources on the theme. The ‘Wales and the French Revolution’ project continues to produce new material, this year in the shape of two new volumes. In Political Pamphlets and Sermons from Wales 1790–1806, Marion Löffler and Bethan Jenkins bring to light some of the period’s liveliest political writers, while Liberty’s Apostle, Paul Frame’s engaging biography of the Llangeinor-born preacher and philosopher Richard Price, should make one of Wales’s most important thinkers much better known. Next September, working with the Political Archive of the National Library of Wales, we will revisit highlights from the project in an exhibition at the Welsh Assembly’s Pierhead building in Cardiff. The next one-day forum of the project ‘Atlantic Europe and the Metal Ages (AEMA): Questions of Shared Language’ will be held on Saturday, 31 October 2015, in the Drwm, National Library of Wales, Aberystwyth. The programme and registration information will be posted, when available, on the project website: <www.aemap.ac.uk>. Cyhoeddiad diweddaraf y Ganolfan yw’r casgliad hwn o bapurau o gynhadledd a gynhaliwyd yn Saint Petersburg yn 2012, sy’n cynnwys ysgrif gan Dafydd Johnston ar eirfa barddoniaeth Dafydd ap Gwilym. The Centre’s latest publication is this collection of papers from a conference held at Saint Petersburg in 2012, which includes an essay by Dafydd Johnston on the lexicon of Dafydd ap Gwilym’s poetry. THE CULT OF Saints IN WALES In September 2014 we held a successful three-day conference in Carmarthen, under the title ‘The Cult of Saints in Wales: Sources and Contexts’. We brought together an international gathering of speakers and delegates who discussed Welsh traditions of hagiography, and compared them with those of European neighbours, Celtic and non-Celtic. During 2015, besides getting on with the work that will be published at the end of the project, we have been busy preparing a travelling exhibition, which will be mounted at four sites over the next eighteen months. At each site we will also hold a one-day event to introduce our work to local audiences. The series begins at Bangor Cathedral on 12 September 2015, and moves on to Llantwit Major on 7 November 2015. Events at St David’s and Holywell will follow next year. For further details of all the project’s activities, visit our website at <www.welshsaints.ac.uk>. Myfyrwyr Ymchwil Mae ein Hysgol Astudiaethau Ôl-radd yn ffynnu ac yn ehangu. Llwyddasom i ddenu llu o geisiadau o safon uchel am ysgoloriaethau Prifysgol Cymru a’r AHRC i’r Ganolfan eleni. O ganlyniad, bydd pedwar myfyriwr yn ymuno â’r criw o chwech sydd gennym ym mis Hydref 2015. Yn seiliedig ar arbenigedd ein staff, mae eu pynciau ymchwil yn amrywio o ferfau Brythoneg a llongddryllio yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar i gyfieithu i’r Gymraeg ac ymwelwyr o ogledd Lloegr i Gymru. Mae ein myfyrwyr cyntaf, Emily Pennifold a Martin Crampin, wedi cyflwyno eu traethodau, a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn eu harholiadau llafar. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud ymchwil ôl-radd yn y Ganolfan, rhowch ganiad! Our School of Graduate Studies goes from strength to strength. This year the Centre succeeded in attracting a cohort of high-quality applications for our University of Wales and AHRC scholarships. As a result, four new students will join our gang of six in October 2015. Drawing on the expertise of our staff, they will research subjects ranging from Brythonic verbs and shipwrecking in early modern Wales to translation into the Welsh language and northern English visitors to Wales. Our first students, Emily Pennifold and Martin Crampin, have now submitted their theses, and we wish them well in their coming examinations. If you are interested in postgraduate studies at the Centre, give us a ring! Dr Marion Löffler, Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd, gyda’r myfyrwyr Sarah Down-Roberts a Linus Band yn Llyfrgell y Ganolfan / Dr Marion Löffler, Head of Graduate Studies, with students Sarah Down-Roberts and Linus Band in CAWCS Library GWOBR ARBENNIG Llongyfarchwn Dr Heather Williams, Cymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750–2010’, am ennill Gwobr M. Wynn Thomas 2015 am waith academaidd eithriadol ym maes llenyddiaeth Saesneg Cymru. Teitl y traethawd buddugol oedd ‘Iolo Morganwg, Edward Williams and the radically bilingual text: Poems Lyric and Pastoral (1794)’ ac fe’i cyhoeddwyd yn ail rifyn yr International Journal of Welsh Writing in English (2014). We congratulate Dr Heather Williams, Research Fellow on the ‘European Travellers to Wales: 1750–2010’ project, who has been awarded the 2015 M. Wynn Thomas Prize for outstanding scholarly work in the field of Welsh writing in English. The prizewinning essay was entitled ‘Iolo Morganwg, Edward Williams and the radically bilingual text: Poems Lyric and Pastoral (1794)’ and appeared in the second issue of the International Journal of Welsh Writing in English (2014). Dr Matt Jarvis o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno’r wobr ar ran Cymdeithas Llên Saesneg Cymru / Dr Matt Jarvis of Aberystwyth University presents the award on behalf of the Association of Welsh Writing in English Cyhoeddir y cylchlythyr hwn yn flynyddol. Gellir cael gwybodaeth bellach am weithgarwch y Ganolfan trwy gysylltu â: Swyddog Gweinyddol, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH. Ffôn: 01970 636543 • Ffacs: 01970 639090 • E-bost: canolfan@cymru.ac.uk • Gwefan: www.cymru.ac.uk/canolfan This newsletter is published annually. For further information regarding the activities of the Centre, please contact: The Administrative Officer, University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH. Tel: 01970 636543 • Fax: 01970 639090 • E-mail: canolfan@cymru.ac.uk • Website: www.wales.ac.uk/cawcs