Ty^ Unnos . House in a Night
Transcription
Ty^ Unnos . House in a Night
Ty^ Unnos . House in a Night a selection of works . detholiad Ty^ Unnos - house in a night a selection of works . detholiad issue . rhifyn 02 A number of new and interesting projects specifying home grown timber and the Ty^ Unnos system have emerged since the publication of the first portfolio. Clients, architects and designers are becoming more aware of the importance of specifying local materials in practising sustainable construction and Ty^ Unnos is gaining acceptance as the ideal system for timber solutions in Wales. This second edition showcases these examples which include a wide range of built projects and a section on ‘in the pipeline’ schemes that plan to use Ty^ Unnos in the near future. The goal is to inspire others to adopt the system for their buildings and expand the supply chain for further projects in the housing, educational and commercial sector. The compilation is testament to the continuing partnership between Coed Cymru and the supply chain members. As projects come onstream there is the exciting prospect of welcoming new companies into the developing team of architects, designers, housing and timber professionals, with the shared goal of adding value to the resource by bringing wider benefit to the rural communities of Wales. Ers cyhoeddi’r rhifyn cyntaf o’r detholiad, mae nifer o brosiectau newydd a chyffrous wedi ymddangos sy’n defnyddio’r Ty^ Unnos. Wrth i gleients, benseiri a chynllunwyr sylweddoli pwysigrwydd defnydd lleol ar gyfer adeiladau cynaladwy mae’r system yn elfen cyfarwydd wrth drafod pren yng Nghymru. Mae’r ail rifyn hwn yn dangos yr ystod eang o adeiladau Ty^ Unnos a godwyd, ac eraill ar y gweill. Y bwriad yw ysbrydoli eraill i ddefnyddio’r system ac i ehangu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer prosiectau yn y sector dai, addysg a masnachol. Mae’r detholiad yn dyst i gryfder y bartneriaeth sy’n parhau rhwng Coed Cymru ac aelodau’r gadwyn gyflenwi. Wrth i brosiectau newydd ddod i’r amlwg daw cyfle euraidd i groesawu cwmnïau newydd i’r tîm; eu prif amcan i hybu gwerth ychwanegol at yr adnodd a dod â buddiannau pellach i gymunedau cefn gwlad Cymru. Haf Roberts Supply Chain Efficiencies Scheme . Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi April . Ebrill 2013 contents cynnwys Foreword 03 Rhagair Introduction 05 Cyflwyniad History and Development 06 Hanes a Datblygiad Ty^ Unnos Components 08 Cydrannau’r Ty^ Unnos Case Studies Astudiaethau Achos 01 Smithsonian Pavilion 10 Pafiliwn Smithsonian 02 Environmental Research Centre 12 Canolfan Canfod 03 Ebbw Vale Passive House 14 Ty^ Goddefol Glynebwy 04 Glan Gors Affordable Housing 16 Tai Fforddiadwy Glan Gors 05 Caban Unnos 18 Caban Unnos 06 Tregynon Rural Studio 20 Stiwdio Wledig Tregynon 07 Leighton Arches 22 Bwa Tre’r Llai 08 Rosliston Forestry Centre 24 Canolfan Goedwigaeth Rosliston 09 Swallow Hill 26 Swallow Hill 10 Cowdenbeath 27 Cowdenbeath 11 Ty Tyfu 28 Ty^ Tyfu 12 Ty^ Unnos Projects in the Pipeline 30 Ar y Gweill Timber Supply Chain 32 Cadwyn Cyflenwi Pren Project Partners 34 Partneriaid y Prosiect Supply Chain Efficiencies Scheme 34 Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi Credits 36 Cydnabyddiaeth ^ 01 02 Ty^ Unnos - House in a Night foreword rhagair The low carbon option is the only viable future to pursue. An innovative system which offers a practical solution to this challenge as well as offering jobs and training in the provision of affordable homes is not only promising, but the development of the Ty^ Unnos system, using a readily available resource from home grown Welsh timber, may be one of the big opportunities of our times. 02 Yr opsiwn carbon isel yw’r unig ddyfodol sy’n bosib. Mae sustem arloesol sy’n cynnig ateb ymarferol i greu swyddi a hyfforddiant tra’n adeiladu cartrefi fforddiadwy nid yn unig yn swnio’n addawol, ond mae’r Ty^ Unnos, drwy ddefnyddio adnodd parod o bren a dyfwyd yng Nghymru, yn cynnig un o gyfleoedd mwyaf addawol ein hoes. Climate change, fuel poverty, homelessness and unemployment require swift responses to ensure environmental and community resilience. Ty^ Unnos, now an award-winning system, has been attracting increasing interest because it is able to add value to the timber supply chain, offer job and training opportunities for the timber and construction industries in rural areas and provide energy-efficient, affordable homes using a renewable resource from Wales. Mae newid yr hinsawdd, tlodi tanwydd, digartrefedd a di-weithdra yn mynnu atebion chwim i sicrhau dycnwch amgylchyddol a chymunedol. Mae’r sustem arobryn hon wedi tynnu sylw cynyddol gan ei bod yn ychwanegu gwerth at y gadwyn cyflenwi pren, yn cynnig cyfleoedd swyddi ac hyfforddiant yn y diwydiant pren ac adeiladu yng nghefn gwlad, ac yn yr un modd yn darparu tai fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni drwy ddefnyddio adnodd adnewyddadwy o Gymru. After years in development, I believe Ty^ Unnos now deserves wider attention to increase both the affordability and range of the product and to demonstrate an exciting response from rural Wales to the key challenge of our times. Ar ôl blynyddoedd ar y gweill, mae’r Ty^ Unnos yn haeddu sylw ehangach er mwyn cynyddu’r elfen fforddiadwy, yr ystod a dewis yr adeiladau. Mae’n ymateb cyffrous o gefn gwlad Cymru i sialens fwyaf ein hoes. Jane Davidson Director, INSPIRE (Institute for Sustainable Practice, Innovation and Resource Effectiveness) Cyfarwyddwr, INSPIRE (Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi a Effeithiolrwydd Adnoddau) University of Wales, Trinity Saint David . Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant 03 03 04 Ty^ Unnos - House in a Night Ty^ Unnos - house in a night introduction . cyflwyniad The Ty^ Unnos partnership is an informal collaboration of organisations and companies led by Coed Cymru. Its aim is to develop the use of home grown timber in construction, especially the commonest softwood species grown in Wales, Sitka spruce. The name, Ty^ Unnos, “a house in one night” owes its origins to the tradition of erecting a house overnight on vacant land and claiming it as a home. This was common practice in Wales until the end of the 19th century. The name was chosen to convey a fast and adaptable building system making use of local material and local labour. Partneriaeth anffurfiol o sefydliadau a chwmnïau sy’n cydweithio dan arweiniad Coed Cymru yw Ty^ Unnos. Y nod yw datblygu’r defnydd o goed sy’n tyfu’n lleol ym myd adeiladu, yn enwedig y rhywogaeth pren meddal fwyaf cyffredin a dyfir yma yng Nghymru – sbriws Sitka. Cafodd y bartneriaeth ei henwi ar ôl y traddodiad o godi ty^ dros nos ar dir gwag, a’i hawlio’n gartref. Roedd hwn yn arferiad cyffredin yng Nghymru tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dewisiwyd yr enw i gyfleu trefn adeiladu hyblyg a chyflym, gan ddefnyddio deunyddiau lleol a gweithwyr lleol. Wales has 150,000 hectares of coniferous plantations which produce approximately one million tonnes of softwood in the round per annum. Over 70% of this production is Sitka spruce. Because it has a tendency to twist while drying it is not often used in timber frame construction but is widely used for pallets, fencing and carcassing timber. However, by re-engineering standard sizes into strong, stable components like box beams and ladder trusses it has been possible to demonstrate a range of higher value uses for this timber in structural beams, wall studs and floor joists. Mae gennym 150,000 hectar o goedwigoedd conwydd yng Nghymru sy’n cynhyrchu tua miliwn tunnell o bren meddal bob blwyddyn. Sbriws Sitka yw dros 70% ohonynt. Nid yw’n cael ei ddefnyddio’n aml iawn mewn fframwaith coed oherwydd ei fod yn dueddol o droelli wrth sychu, ond mae’n gyffredin mewn paledi, ffensys a phren carcas. Trwy ailbeiriannu meintiau safonol yn gydrannau cryf a sefydlog fel trawstiau bocs ac ysgolion cyplog, mae’n bosibl dangos bod gwerth a defnydd uwch ac amrywiol i’r pren hwn mewn trawstiau adeiladau, styds waliau a distiau lloriau. 05 History and development hanes a datblygiad A feasibility study commissioned in 2006 looked at the possibility of building homes using home grown Sitka spruce, the most readily available softwood resource in Wales. Simple substitution of imported material commonly used for timber frame systems was not deemed possible, due to the greater stability and superior strength of slow grown softwoods available from drier, cooler climates. The study therefore proposed a radical departure from current practice in the form of a whole house construction system of engineered home grown timber components. The proposals attracted great interest from all aspects of the industry and a multi disciplinary team of experts formed to prototype, test, and develop home grown timber components in combination with a number of commercial partners. To date, home grown timber components have been used for the construction of over 20 units and a number of engineered components have achieved European certification for quality and performance. These are currently in use in innovative developments around the UK. 06 Ty^ Unnos - House in a Night Comisiynwyd astudiaeth ddichonoldeb yn 2006 i drafod y posibilrwydd o adeiladu tai gan ddefnyddio’r sbriws Sitka lleol, sef y pren meddal mwyaf cyffredin sy’n tyfu yng Nghymru. Nid oedd modd mynd ati’n syml i gyfnewid y deunyddiau a fewnforir ar gyfer systemau ffrâm coed gan fod pren meddal sy’n tyfu’n araf mewn hinsawdd sychach ac oerach yn fwy sefydlog a chryf. Felly, defnyddiwyd dull cwbl newydd trwy greu system adeiladu ty^ cyfan gan ddefnyddio cydrannau pren cartref wedi’u peiriannu. Denwyd diddordeb o bob rhan o’r diwydiant a sefydlwyd tîm amlddisgyblaeth o arbenigwyr i gynllunio, profi a datblygu cydrannau pren cartref ar y cyd ag amryw o bartneriaid masnachol. Hyd yma, mae cydrannau pren cartref wedi’u defnyddio i adeiladu dros 20 o unedau a’r cydrannau wedi’u peiriannu wedi ennill ardystiad Ewropeaidd am ansawdd a perfformiad. Defnyddir y rhain mewn datblygiadau arloesol ledled y DU ar hyn o bryd. 04 05 06 07 07 Ty^ Unnos components cydrannau’r ty^ unnos The Ty^ Unnos system takes readily available standard sections of home grown Sitka spruce timber, seldom used in traditional construction, to deliver a range of engineered components using simple manufacturing processes. Mae system Ty^ Unnos yn cymryd darnau parod a safonol o bren sbriws Sitka, na chaiff ei ddefnyddio rhyw lawer mewn systemau adeiladu traddodiadol, ac yn defnyddio prosesau gweithgynhyrchu syml i greu amrywiaeth o gydrannau wedi’u peiriannu. The system comprises of two simply assembled engineered timber components; a hollow box section beam and a small section ladder beam. When combined with frame connectors and Oriented Strand Board-based infill panels, the engineered components form an innovative whole building construction system. Mae’r system yn cynnwys dwy gydran pren wedi’u peiriannu a’u gosod at ei gilydd yn syml; trawst bocs gwag a thrawst ysgol bach. Ar ôl eu cyfuno â’r cysylltwyr ffrâm a’r paneli mewnlenwad o fwrdd OSB, mae’r cydrannau wedi’u peiriannu yn creu system adeiladu arloesol ar gyfer adeilad cyfan. The design team have followed the Eurocodes convention in prototyping and testing engineered components. The box beam can be used as a load bearing element and can span up to 4.8 metres. The ladder beam can be used as a floor joist with spans up to 3 metres and as a nonload bearing wall stud. Both components can be used together in an integrated build system or independently in new build and refurbishment projects. 08 08 Ty^ Unnos - House in a Night The system offers an adaptable method of building using these basic elements and is suitable for a variety of development opportunities, from affordable housing in its modular form, to a one off studio or cabin suitable for smaller sized plots. Dilynodd y tîm cynllunio y côd Ewropeaidd wrth gynllunio ac arbrofi gyda’r cydrannau. Ar hyn o bryd, mae’r trawst bocs yn gallu pontio hyd at 4.8 metr a gellir ei ddefnyddio ar gyfer dal pwysau. Gellir defnyddio’r trawst ysgol fel trawst llawr sy’n gallu ymestyn hyd at 3 metr, ac fel styds waliau nad ydynt yn dal pwysau. Gellir defnyddio’r ddwy gydran gyda’i gilydd mewn adeiladwaith integredig neu ar ei ben eu hunain mewn prosiectau adnewyddu ac adeiladau newydd. Mae’r system yn cynnig dull hyblyg o adeiladu y gellir ei addasu trwy ddefnyddio’r cydrannau sylfaenol hyn. Mae’n addas i bob math o waith adeiladu, o brosiectau tai fforddiadwy yn ei ffurf fodiwlar, i stiwdio neu gaban ar gyfer darnau llai o dir. 09 10 11 12 09 01 Smithsonian pavilion pafiliwn Smithsonian Smithsonian Festival, Washington Mall Summer . Haf 2009 Architect . pensaer Design Research Unit Wales Client . cleient Coed Cymru Main Contractor . prif gontractwr Kenton Jones Joinery Manufacturer . gwneuthurwr Kenton Jones Joinery Project Value . gwerth y prosiect £40 000 In 2009, the Smithsonian Institute’s Center for Festival and Cultural Heritage invited Wales to be the subject of their open air festival. Situated on the National Mall, Washington DC the festival is an exposition of living cultural heritage lasting for two weeks every summer over the 4th of July national holiday and drawing more than one million visitors. Based on the humble vernacular of Welsh rural domestic architecture, the project team proposed an exhibition building entitled ‘learning from the vernacular’. The simple and predominantly open pitched pavilion was designed, prefabricated and preassembled in mid Wales over a 4 week period before being disassembled and transported to the Mall, Washington DC. The pavilion, which hosted the exhibition “Building with Timber in Wales” describing the timber industry and resource of Wales and it’s historical and contemporary relationship with the construction industry, was the focus of several key political and media events and received in the region of 100,000 visitors over the two week festival period. 10 Ty^ Unnos - House in a Night Yn 2009, cafodd Cymru wahoddiad i ymuno ^ â gw yl awyr agored y Smithsonian Institute’s Centre for Festival and Cultural Heritage ar ^ safle’r National Mall, Washington DC. Gw yl sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol fyw yw hon, a gynhelir am bythefnos bob haf adeg eu diwrnod cenedlaethol ar 4 Gorffennaf, gan ddenu dros filiwn o ymwelwyr. Penderfynodd tîm y prosiect y gellid creu adeilad arddangosfa wedi’i seilio ar bensaernïaeth wledig syml y werin gynt. Cafodd pafiliwn symudol, syml ac agored ei gynllunio, ei saernïo o flaen llaw a’i godi yng nghanolbarth Cymru dros gyfnod o 4 wythnos cyn cael ei ddatgymalu a’i gludo i’r Mall, Washington DC. Cynhaliwyd arddangosfa arbennig yn y pafiliwn ar adeiladu â phren yng Nghymru. Roedd yn olrhain hanes y diwydiant pren a’r adnoddau sydd ar gael yng Nghymru a’r cysylltiad â’r diwydiant adeiladu ddoe a heddiw. Cynhaliwyd llu o ddigwyddiadau gwleidyddol a chyda’r cyfryngau yn y pafiliwn gan ddenu tua ^ yl. 100,000 o ymwelwyr dros bythefnos yr w 13 14 11 02 Environmental Research Centre canolfan canfod The Works, Ebbw Vale May . Mai 2010 Architect . pensaer Design Research Unit Wales Client . cleient Blaenau Gwent County Borough Council Main Contractor . prif gontractwr G Adams Construction Manufacturer . gwneuthurwr Cowley Timberwork Project Value . gwerth y prosiect £330 000 The Environmental Resource Centre (ERC) at ‘The Works’ regeneration site in Ebbw Vale is the first commercially completed project to use the award winning Ty^ Unnos construction system. The sustainable building combines Welsh timber, high levels of insulation and a state of the art heating and ventilation system to provide an environmentally friendly and innovative building. Located on an ecologically rich site next to the former Pumphouse cooling ponds, the centre will provide educational facilities to allow local school children and the community to explore the heritage and ecology of the former steelworks site. The simple rectilinear classroom, draws heavily from it’s industrial context. Externally, layered facades of robust materials including charred timber cladding and galvanised grillage, disguise elevations of animated and brightly coloured supergraphics displaying habitats from the local context. Whilst internally a lining of exposed birch plywood, galvanised steel and black marmoleum provide robust, serviceable facilities. Shortlisted for Wood Awards 2010. Awarded the National Eisteddfod Plaque of Merit July 2011. 12 Ty^ Unnos - House in a Night Mae Canolfan Canfod yn rhan o safle adfywio ‘Y Gweithfeydd’ yng Nglynebwy, a dyma’r prosiect cyflawn masnachol cyntaf i ddefnyddio system adeiladu arbennig Ty^ Unnos. Mae’r adeilad cynaliadwy hwn yn cyfuno pren Cymreig, lefelau uchel o inswleiddio a system wresogi ac awyru arloesol i greu adeilad ecogyfeillgar newydd. Wedi’i lleoli ar safle o ddiddordeb ecolegol ger pyllau oeri’r Ty^ Pwmpio gynt, bydd y ganolfan yn cynnig cyfleusterau addysgol i blant ysgol a’r gymuned leol ddysgu am dreftadaeth ac ecoleg yr hen safle gwaith dur. Mae’r cefndir diwydiannol i’w weld yn amlwg yn yr ystafell ddosbarth syth syml. Tu allan, rhoddwyd haenau o ddeunyddiau cadarn gan gynnwys cladin pren golosgedig a fframwaith galfanedig ac amrywiol luniau, cartwnau a graffeg lliwgar sy’n arddangos cynefinoedd lleol. Mae’r tu mewn yn cynnwys leinin o bren haenog bedw, a marmolewm du a dur galfanedig sy’n darparu cyfleusterau defnyddiol. Rhestr fer Wood Awards 2010. Dyfarnwyd Plac Teilyngod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gorffennaf 2011. 15 17 16 13 03 EBBW VALE passive house ty^ goddefol glynebwy Future Works, Ebbw Vale July . Gorffennaf 2010 Architect . pensaer Design Research Unit Wales Client . cleient Blaenau Gwent County Borough Council Main Contractor . prif gontractwr G Adams Construction Manufacturer . gwneuthurwr Kenton Jones Joinery Project Value . gwerth y prosiect £250 000 The Visitor Centre was constructed following a successful entry into the Future Works Housing Competition 2009, a competition which called for the industry to create the “Welsh Passive House” through the consideration of natural resources, climate and geography to determine the most appropriate delivery of a low energy and carbon house for Wales. Initially constructed as a visitor centre to the Future Works development of showcase homes, the building will be retrofitted as a two bedroom house. The house establishes the complex brief of combining the German Passivhaus performance specification with a desire to source labour and materials within Wales. The completed home will meet Code for Sustainable Homes level 5 through a fabric first approach to environmental design. The house was realised as the conclusive study of a collaborative research project funded by the Technology Strategy Board’s Innovation Fund alongside partners from local businesses involved in the timber supply chain. It won the InnovaWood European forest and timber network Prize for innovation and technology transfer in 2011. 14 Ty^ Unnos - House in a Night Adeiladwyd y ty^ hwn ar ôl anfon cais llwyddiannus i Gystadleuaeth Future Works Housing 2009, oedd yn gofyn creu “Ty^ Goddefol Cymreig” (Passive House) a phenderfynu’r ffordd fwyaf priodol o greu ty^ carbon ac ynni isel i Gymru. Wedi’i adeiladu’n wreiddiol fel canolfan ymwelwyr ar gyfer datblygiad tai arddangos Future Works, bydd yr adeilad yn cael ei weddnewid yn dy^ dwy ystafell wely. Mae’r ty^’n cydymffurfio â manylebau perfformio Passivhaus Almaenaidd ac yn defnyddio llafur a deunyddiau o Gymru. Ar ôl ei ailwampio, bydd y ty^ ’n bodloni gofynion lefel 5 y Cod Cartrefi Cynaliadwy trwy ddefnyddio dull dylunio sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Roedd y cyfan yn bosibl diolch i astudiaeth derfynol prosiect ymchwil cydweithredol wedi’i ariannu gan gronfa arloesi y Bwrdd Strategaeth Technoleg yn ogystal â phartneriaid o funsesau lleol sy’n gysylltiedig â’r gadwyn cyflenwi pren. Enillodd wobr InnovaWood (rhwydwaith coedwigoedd a phren Ewropeaidd) ar gyfer arloesi a throsglwyddo technoleg yn 2011. 18 19 20 21 15 04 Glan Gors Affordable Housing tai fforddiadwy glan gors Dolwyddelan, North Wales July . Gorffennaf 2010 Architect . pensaer J Ross Developments Client . cleient Cymdeithas Tai Clwyd Main Contractor . prif gontractwr J R Pickstock Ltd Manufacturer . gwneuthurwr Elements Europe Project Value . gwerth y prosiect £505 000 The four 3 bedroomed 5 person semidetached houses were developed on former Forestry Commission land. The site employs the Ty^ Unnos Modular system of building to provide low cost local needs housing. Each dwelling comprises two complete modules, one for each floor. The modules are fully finished in quality controlled factory conditions including the installation of internal finishes, windows and doors, bathrooms and all electrical services and appliances prior to transportation to site, where assembly is completed in a matter of hours on preformed foundations. Once in position, external finishes are applied to walls and roof along with external landscaping, typically completed within 6 to 8 weeks. Datblygwyd pedwar ty^ pâr, tair ystafell wely ar gyfer 5 person, ar hen dir y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r safle’n mabwysiadu system adeiladu fodiwlar Ty^ Unnos er mwyn darparu cartrefi rhad i bobl leol. Mae pob ty^ yn cynnwys dau fodiwl cyflawn, un ar gyfer pob llawr. Mae’r modiwlau wedi’u paratoi’n llawn yn y ffatri, gan gynnwys yr arwynebau mewnol, yr holl ddrysau a ffenestri, ystafelloedd molchi a’r holl gyfarpar a gwasanaethau trydanol cyn eu cludo i’r safle lle byddant yn cael eu gosod at ei gilydd mewn ychydig oriau ar sylfeini parod. Unwaith maent yn eu lle, mae’r gorffeniadau allanol yn cael eu gosod ar y to a’r waliau yn ogystal â’r gwaith tirlunio allanol, sy’n barod o fewn 6 i 8 wythnos fel arfer. The site lies within the Snowdonia National Park and provides important affordable housing for local people in this part of rural Wales. The houses were designed to the Code for Sustainable Homes level 4. Mae’r safle ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac yn darparu tai fforddiadwy hollbwysig i bobl leol yng nghefn gwlad Conwy. Cafodd y tai eu dylunio i lefel 4 y Cod Cartrefi Cynaliadwy. The homes include a built-in heat recovery system with solar panels on the roof to supplement water heating, which along with a high degree of insulation helps lower household running costs. 16 Ty^ Unnos - House in a Night Mae’r cartrefi’n cynnwys system adfer gwres mewnol gyda phaneli solar ar y tô i gynhesu ^ r, gan helpu i leihau costau cynnal yr dw aelwyd. 22 25 23 24 17 05 caban unnos Pembrokeshire Coast National Park Ongoing . Ar y gweill Design Consultant . ymgynghorydd dylunio Rob Thomas Client . cleient Pembrokeshire Coast National Park Main Contractor . prif gontractwr Kenton Jones Joinery Manufacturer . gwneuthurwr Kenton Jones Joinery Project Value . gwerth y prosiect £10 000 The Caban Unnos is a derivative of the award winning Ty^ Unnos- ‘A house in one night’ research study and innovative Welsh timber construction system. Prosiect ymchwil llwyddiannus Ty^ Unnos a’r cynllun newydd Cymreig o adeiladu â phren oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Caban Unnos. The demonstration project, funded by the Sustainable Development Fund, brings together innovative and creative members of the Welsh timber supply chain for the construction of a high performance moveable building using locally sourced materials, skills and manufacturing processes. The building exhibits an innovative prefabricated solution for sustainable construction adaptable to a broad variety of scales, from an autonomous rural studio to high quality affordable housing. All products in the Caban are made of Welsh timber, from the frame and infill panels to the insulation, cladding, floors, doors and windows. Mae’r prosiect arddangos hwn, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, yn dod ag aelodau arloesol a chreadigol o gadwyn cyflenwi pren Cymru at ei gilydd i godi adeilad symudol perfformiad uchel, gan ddefnyddio deunyddiau, sgiliau a thechnegau gweithgynhyrchu lleol. Mae’r adeilad yn cynnig ateb parod (prefab) i adeiladu cynaliadwy y gellir ei addasu ar raddfa fach a mawr – o stiwdio wledig annibynnol i dai fforddiadwy o safon. Mae holl gynhyrchion y Caban wedi’u gwneud o bren Cymreig, o’r fframiau a’r paneli llenwi i’r inswleiddio, cladin, lloriau, drysau a ffenestri. The Caban was transported across Pembrokeshire for a programme of events throughout 2011 to demonstrate the value of home grown timber for construction in Wales. 18 Ty^ Unnos - House in a Night Cafodd y Caban ei gludo i ddigwyddiadau amrywiol ar hyd a lled Sir Benfro yn 2011, er mwyn dangos gwerth mewn pren lleol ar gyfer y byd adeiladu yng Nghymru. 26 27 28 29 19 06 Tregynon rural studio stiwdio wledig tregynon The Old Sawmill, Tregynon Ongoing . Ar y gweill Design Consultant . ymgynghorydd dylunio Rob Thomas Client . cleient Coed Cymru Main Contractor . prif gontractwr Rob Thomas Manufacturer . gwneuthurwr Kenton Jones Joinery Project Value . gwerth y prosiect £10 000 20 Ty^ Unnos - House in a Night The Tregynon Rural Studio is the conclusive prototype study in the development of the Ty^ Unnos construction system using home grown Sitka spruce. Based on the rural site of the Old Sawmill, Tregynon, the small studio is constructed by hand using limited manufacturing and construction skills, and the machinery and facilities of a standard prototyping workshop. Mae Stiwdio Wledig Tregynon yn astudiaeth brototeip derfynol ar gyfer datblygu system adeiladu Ty^ Unnos gan ddefnyddio sbriws Sitka cartref. Wedi’i chodi ar safle gwledig yr Hen Felin Lifio, Tregynon, cafodd y stiwdio fechan ei hadeiladu â llaw gan ddefnyddio sgiliau cynhyrchu ac adeiladu cyfyngedig, a pheiriannau a chyfleusterau gweithdy prototeip sylfaenol. The small demountable studio unit draws on the simple vernacular form of the Welsh croglofft cottage to provide a sustainable autonomous live/work space. The cedar shingle clad pitched roof form is made up of three structural bays distinguishing three functional areas; a serviced bay houses a composting toilet and kitchen area accommodated below a mezzanine sleeping deck, an entrance deck opens into a small living area with wood fired stove providing the heat demand required by the highly insulated building, and a flexible work area looks out through desk height windows to the surrounding landscape. Mae’r uned fach y gellir ei datgymalu yn seiliedig ar bensaernïaeth werinol y bwthyn croglofft traddodiadol ac mae’n darparu lle annibynnol a chynaliadwy i fyw/gweithio. Mae’r to cedrwydd onglog wedi’i wneud o dri chowlas strwythurol sy’n ymrannu’n dair rhan benodol – cowlas ar gyfer gwasanaethau sy’n cynnwys ty^ bach a chegin o dan ddec cysgu mezzanine; dec mynedfa sy’n agor i ystafell fyw fach â stof goed sy’n darparu gwrês yr adeilad wedi’i inswleiddio’n dda; a gweithle hyblyg sy’n edrych allan drwy ffenestri uchder desg i’r dirwedd o’ch cwmpas. 30 33 31 32 34 21 07 Leighton Arches bwa tre’r llai Leighton Road, Welshpool September . Medi 2011 Design . dylunio Powys County Council/ Elements Europe Client . cleient Powys County Council Main Contractor . prif gontractwr Alun Griffiths Contractors Ltd Manufacturer . gwneuthurwr Elements Europe Project Value . gwerth y prosiect £1 million The development of 10 single storey units is a redevelopment of the former Withy Beds Traveller site in Leighton Road, Welshpool. The site, first established in 1982, had a number of deficiencies which are addressed under the redevelopment. The Ty^ Unnos Modular amenity units are part of a wider improvement scheme which includes a new access road, footpaths, fire prevention systems, improved lighting and recreational facilities. Adeiladwyd 10 uned unllawr wrth ailddatblygu hen safle teithwyr Withy Beds yn Ffordd Leighton, y Trallwng. Cafodd y safle ei ddatblygu’n gyntaf ym 1982, ac roedd yn cynnwys nifer o ddiffygion yr aethpwyd i’r afael â nhw fel rhan o’r datblygiad hwn. Mae unedau modiwlaidd Ty^ Unnos yn rhan o gynllun gwella ehangach sy’n cynnwys ffordd fynediad newydd, llwybrau troed, systemau atal tân, goleuadau gwell a chyfleusterau hamdden. Each factory finished single storey building offers a lounge, dining room, kitchen, bathroom, cloakroom and storeroom, and requires only the completion of external cladding and roof assembly once on site. Mae pob adeilad unllawr sengl wedi’i orffen yn barod yn y ffatri, ac yn cynnwys lolfa, ystafell fwyta, cegin, ystafell ymolchi, ystafell gotiau a storfa. Ar ôl cludo’r unedau i’r safle, y cyfan oedd ei angen oedd gosod y cladin allanol a’r tô. Using a modern method of construction in the form of prefabricated units enabled the site to be refurbished quickly and with quality assured. The speed of installation also helped the scheme to be completed on time and to budget. 22 Ty^ Unnos - House in a Night Trwy ddefnyddio dull adeiladu modern ar ffurf unedau parod, roedd modd ailwampio’r safle yn gyflym gan sicrhau ansawdd priodol. Diolch i’r gwaith gosod cyflym, cwblhawyd y cynllun yn brydlon yn unol â’r gyllideb. 35 36 37 38 23 08 rosliston forestry centre canolfan goedwigaeth rosliston Rosliston, Swadlincote, Derbyshire May . Mai 2010 Architect . pensaer Wiliam Saunders Partnership LLP Client . cleient Forestry Commission Main Contractor . prif gontractwr J Tomlinson Ltd Manufacturer . gwneuthurwr Cowley Timberwork Engineer . gwneuthurwr John Westmuckett Project Value . gwerth y prosiect £49 500 Rosliston Forestry Centre was created on 90 ha of former farmland in the Mease Lowlands. It is owned jointly by South Derbyshire District Council and Forest Enterprise and provides a shop, restaurant, indoor play area and craft centre. The site offers a range of outdoor activities such as walking, cycling and outdoor play areas. The Forestry Commission were keen that their building should be made from British timber. Due to the large spans of the proposed building, the hollow high structural capacity Ty^ Unnos box section portal frames offered a highly efficient homegrown timber solution. Roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn awyddus i’w hadeilad gael ei greu o bren Prydeinig. Oherwydd rhychwant eang yr adeilad dan sylw, roedd fframiau porthol blwchdoriad y Ty^ Unnos yn ddelfrydol gyda’u rhannau strwythurol cryf. Pitched portal frames are set at 5m centres and the longest span is 8175mm overall. Each is tapered, from 500mm deep at the haunch tapering to 350 mm at the apex and 400mm at the base. This provides 5 workshops. Where exposed internally, the structure is coated with Envirograf to control flamespread. Mae’r fframiau porthol a osodir ar oleddf ar ganolau 5 m ac yn 8175mm o hyd o un pegwn i’r llall. Maent yn 500mm o ddyfnder ar yr hansh, yn meinhau i 350 mm ar yr apig a 400mm ar ei waelod. Mae’n darparu 5 gweithdy ac mae’r holl strwythur agored ar y tu mewn wedi’i orchuddio ag Envirograf ar gyfer rheoli fflamau rhag lledaenu. The timber frame is infilled with prefabricated wall and roof panels using C16 timber, sourced from Pontrilas Timber. O fewn y ffram bren mae’r paneli wal a thô parod yn defnyddio pren C16 o Pontrilas Timber. Roedd y gwaith cyflenwi a gosod yn cynnwys y ffram a’r paneli waliau allanol. The Project Value figure is for supply of frames and external panels only. 24 Ty^ Unnos - House in a Night Crewyd Canolfan Goedwigaeth Rosliston ar 90 ha o hen dir fferm yn ardal iseldir y Mease. Mae’n eiddo i Gyngor Dosbarth De Swydd Derby a’r Fenter Goedwigaeth ar y cyd ac yn cynnwys siop, ty^ bwyta, man chwarae dan dô a chanolfan grefftau. Mae’r safle yn cynnig nifer o gyfleusterau fel llwybrau cerdded, llwybrau beicio a mannau chwarae awyr agored. 39 40 41 42 25 09 swallow hill Mynydd Du Road, Treuddyn, North Wales March . Mawrth 2012 Architect . pensaer J M Harrison Client . cleient Mr Ron Davies + Dr Margaret Huish Davies Main Contractor . prif gontractwr Kenton Jones Manufacturer . gwneuthurwr Kenton Jones Project Value . gwerth y prosiect £25 000 This single storey private dwelling sits in open farmland with glorious rural views in all directions, which the open plan interior fully exploits with extensive glazing. The three bedroom home comprises of a series of interconnecting bays. Arranged over a single level, the house has a study, hall and open plan kitchen diner that links directly to the lounge. The house makes the most of passive solar, with rooflights offering natural light deep into the plan. The white marble finish results in a bright, contemporary interior. Construction took place in wintry conditions, but despite high winds and frost, it took just one day to erect the frame. It was imperative that the flat roof was made watertight. The speed of the build astounded the client and the resulting light-filled home is a testament to the flexibility of the Ty^ Unnos system. The single floor level means the owners have a fully future-proofed house which they can enjoy with their grand children. The Project Value includes the supply and fix of the frame and plywood panels. Saif yr annedd preifat un llawr hwn mewn tir fferm agored gyda golygfeydd gwledig godidog o’i amgylch, sydd i’w gweld ar eu gorau o’r tu mewn gyda’r cynllun agored a’r talcenni gwydrog. Mae’r cartref tair ystafell wely’n cynnwys cyfres o raniadau rhyng-gysylltiol. Wedi’i osod ar un llawr, mae’r ty^ ’n cynnwys stydi, cyntedd a chegin fwyta cynllun agored sy’n mynd drwodd i’r lolfa. Mae’r ty^ yn manteisio i’r eithaf ar ynni haul goddefol, gyda ffenestri yn y tô yn gadael golau naturiol i’r cynllun dwfn. Mae’n cael ei oleuo ymhellach gan y teils marmor gwyn drwyddo draw. Cwblhawyd y gwaith adeiladu mewn un diwrnod, ar waethaf y tywydd gaeafol. Pan godwyd y ffrâm rhaid oedd gosod y gorchudd tô gwrth-ddŵr yn ystod gwyntoedd cryfion ac amodau rhewllyd. Gan fod i’r adeilad dô gwastad roedd hyn yn swyddogaeth bwysig iawn. Synnwyd y cleient gan gyflymder y gwaith adeiladu ac mae’r cartref llawn golau yn dystiolaeth o hyblygrwydd y system Ty^ Unnos. Mae cael ty^ un llawr yn golygu bod gan y perchnogion dy^ ar gyfer y dyfodol i’w fwynhau gyda’u hwyrion. Y gost gyflenwi a gosod y ffrâm a’r paneli pren a roddir yma. 26 Ty^ Unnos - House in a Night 43 44 45 46 27 10 cowdenbeath Fife, Scotland April . Ebrill 2012 Client . cleient Living Solutions Scotland Main Contractor . prif gontractwr Living Solutions Scotland Manufacturer . gwneuthurwr Living Solutions Scotland Project Value . gwerth y prosiect £2 000 Living Solutions Scotland is a dynamic social enterprise charity based in Cowdenbeath, Fife. It seeks solutions to conserve and protect the natural environment, reduce unemployment and increase access to affordable sustainable housing and achieves this through environmental work and projects carried out in the local community. It currently runs operations in forestry, minor civil engineering, landscaping, timber processing and construction using home grown timber, providing employment, training and volunteering opportunities. Living Solutions, always interested in innovation, were keen to trial the Ty^ Unnos system. In a partnership with Coed Cymru, they became the first manufacturer of Ty^ Unnos components outside Wales. This small building, on a 4.8 x 4.8 m plan, provides the accommodation for the current offices of the organisation. The Sitka spruce was sourced from Blairadam Forest, a 4 mile distance from the office location. The organisation has a timber processing facility and carried out the felling and sawing of timber as well as the beam manufacture themselves. 28 Ty^ Unnos - House in a Night Elusen menter gymdeithasol gyffrous yw Living Solutions Scotland, wedi’i lleoli yn Cowdenbeath, Fife. Mae’n mynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol a chymdeithasol ac mae’n chwilio am atebion ar gyfer gwarchod a diogelu’r amgylchedd naturiol, lleihau diweithdra a gwneud tai cynaliadwy a fforddiadwy yn fwy hygyrch i bobl. Mae’n cyflawni hyn drwy waith a phrosiectau amgylcheddol yn y gymuned leol, gan ddarparu gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli. Ar hyn o bryd, mae’n cynnal gweithgarwch ym maes coedwigaeth, peirianneg sifil ar raddfa fach, tirlunio, prosesu pren ac adeiladu drwy ddefnyddio pren wedi’i dyfu’n lleol. Roedd Living Solutions, sydd bob amser â diddordeb mewn arloesi, yn awyddus i dreialu’r system Ty^ Unnos. Mewn partneriaeth â Coed Cymru, nhw oedd y cyntaf i gynhyrchu cydrannau Ty^ Unnos y tu allan i Gymru. Yr adeilad bach hwn, ar gynllun 4.8 x 4.8 m, yw cartref swyddfeydd presennol y sefydliad. Daeth y coed sbriws Sitka o Goedwig Blairadam, 4 milltir o leoliad y swyddfa. Mae gan y sefydliad gyfleuster prosesu coed a nhw eu hunain a dorrodd y coed a’u llifio yn ogystal â chynhyrchu’r trawstiau. 47 49 48 50 29 11 Ty^ TYFU gardd fotaneg genedlaethol cymru Llanarthne, Carmarthenshire October . Hydref 2012 Architect . pensaer Walshe Associates Client . cleient National Botanic Gardens of Wales Main Contractor . prif gontractwr Kenton Jones Manufacturer . gwneuthurwr Kenton Jones Project Value . gwerth y prosiect £40 000 Growing the Future based at The National Botanic Garden of Wales built their new office Ty^ Tyfu using the Ty^ Unnos system. Growing the Future, a project funded by the European Agricultural Fund for Rural Development provides information and courses to help people across Wales grow their own food. The office is a small single storey building of 8 x 5 m dimension, providing desk space for three staff members and a central meeting area. The building is within easy walking distance of the Garden’s main visitor buildings. Its all-Welsh timber construction comprises of Western Red Cedar shingles and cladding from Esgair Forest in Machynlleth. Insulation is provided by Warmcel recycled newspaper and rainwater is harvested for use on the gardens. The next phase is the construction of a new teaching facility, canolfan Tyfu, located within Tir Tyfu, a one acre planting and growing area at the Garden. 30 Ty^ Unnos - House in a Night Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gartref i sefydliad Tyfu’r Dyfodol, prosiect a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Adeiladwyd eu swyddfa newydd, Ty^ Tyfu, gan ddefnyddio Ty^ Unnos. Mae Tyfu’r Dyfodol yn darparu cyrsiau ac e-addysg yngly^n â sut i dyfu gardd fwytadwy.Y nôd yw gwneud hyfforddiant ar dyfu planhigion bwytadwy yn agored i bawb. Adeilad bychan un llawr yw’r swyddfa 8 x 5 m o faint, yn darparu gofod desg i dri a man cyfarfod canolog. Mae’r adeilad o fewn pellter cerdded hwylus i brif adeiladau’r Ardd ar gyfer ymwelwyr. Mae ei adeiladwaith o bren Cymreig yn cynnwys estyll a chladin o gedrwydd coch gorllewinol o Goed Esgair, Machynlleth. Caiff ei insiwleiddio gan bapur newydd wedi’i ailgylchu Warmcel, a chaiff ^ r glaw ei gasglu ar gyfer dyfrio’r gerddi. dw Y cam nesaf yw codi Canolfan Tyfu, adeilad addysg newydd ar gyfer yr Ardd, o fewn Tir Tyfu, ar acer a neilltuwyd ar gyfer plannu a thyfu llysiau a ffrwythau. 51 52 53 54 31 12 Ty^ Unnos projects in the pipeline prosiectau ty^ unnos sydd ar y gweill The variety of build projects Ty^ Unnos caters for continues with a number of new schemes, ranging from a Victorian town house conversion, a new learning facility with space for classroom activities at the Botanic Gardens and an architecturally stimulating new home in a dramatic rural location in West Wales. Other projects planned include self build and affordable homes. Canolfan Tyfu at National Botanic Gardens of Wales This new build by Hughes Architects will provide the new learning space for the project at the Gardens. Situated within the project’s one acre growing site, Tir Tyfu, Canolfan Tyfu offers training courses and information on all aspects of growing fruit and vegetables at home. 55 Blaengors Rhydargaeau This contemporary replacement dwelling by Mike Watt Architects consists of a timber and zinc–clad design based on an upside down layout with the living spaces on the largely open-plan first floor to maximise views of the landscape. 32 Ty^ Unnos - House in a Night 56 58 57 Mae’r amrywiaeth o brosiectau adeiladu y gall Ty^ Unnos eu darparu yn parhau, yn amrywio o addasiad ty^ tref Fictoraidd, cyfleuster dysgu newydd gyda gofod ar gyfer gweithgareddau dosbarth a chartref newydd pensaernïol gyffrous mewn lleoliad gwledig dramatig yn Ngorllewin Cymru. Ymhlith y rhai sydd i ddod mae prosiect hunanadeiladu a tai fforddiadwy. Canolfan Tyfu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 59 Bydd yr adeilad newydd hwn gan benseiri Doug Hughes yn darparu cyfleuster dysgu ar gyfer y prosiect yn y Gerddi. Wedi ei leoli ar Tir Tyfu, bydd y Ganolfan yn darparu cyrsiau hyfforddi a gwybodaeth ar bob agwedd o dyfu llysiau a ffrwythau yn y cartref. Blaengors Rhydargaeau Mae’r annedd newydd cyfoes hwn gan Mike Watt Architects wedi’i greu o gynllun pren a chladin sinc yn seiliedig ar gynllun pen i waered, gyda’r gofod byw ar y llawr cyntaf cynllun agored yn bennaf er mwyn manteisio i’r eithaf ar y golygfeydd. 60 33 the timber supply chain y gadwyn cyflenwi pren Ty^ Unnos provides the opportunity for a stronger supply chain involving growers, sawmillers, manufacturers and construction professionals who would benefit from bringing the raw material from forest to a useful end product in Wales. Jobs and training opportunities will follow as the manufacturing processes are within the capabilities of a standard joinery workshop and adaptable for a range of equipment and skills. Mae Ty^ Unnos yn gyfle i sefydlu cadwyn gyflenwi gryfach sy’n cynnwys tyfwyr, melinau llifio, gweithgynhyrchwyr ac adeiladwyr proffesiynol a fyddai’n elwa ar drosglwyddo deunydd crai o’r goedwig a’i droi yn gynnyrch gorffenedig defnyddiol yng Nghymru. Byddai hyn yn arwain at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant, gyda gweithdy saer coed sylfaenol yn gallu addasu i wneud prosesau gweithgynhyrchu gydag amrywiaeth o gyfarpar a sgiliau gwahanol. 1 61 resource . adnodd 62 2 harvesting . cynaeafu 34 Ty^ Unnos - House in a Night 3 5 sawmill . melin lifio training . hyfforddiant 6 63 64 4 65 construction . adeiladu manufacture . gwneuthuro 66 35 project partners partneriaid y prosiect Coed Cymru Coed Cymru is an all Wales initiative to promote the management of woodlands and the use of locally grown timber in Wales. Coed Cymru have a long and notable track record of innovation in wood products, furniture and homeware through to certified building components. These are rooted in the real need to sensibly exploit home grown products so that the benefits of sustainable management of the Welsh forest can be realised. Mae Coed Cymru yn fenter ar gyfer Cymru gyfan i hyrwyddo rheolaeth coetiroedd llydanddail a’r defnydd o bren sydd wedi’i dyfu’n lleol yng Nghymru. Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o arloesi â chynhyrchion pren, o ddodrefn, offer ty^ i gydrannau adeiladu ardystiedig. Wrth wraidd y cyfan, mae angen gwirioneddol i fanteisio a gwneud defnydd doeth o gynhyrchion sy’n cael eu tyfu’n lleol er mwyn gwarchod ac atgyfnerthu coedwigoedd cynhenid. Burroughs Cowley Timberwork Design Research Unit Wales 4, Radnor Court, 256, Cowbridge Road East, Cardiff, CF5 1GZ The Quarry, Grantham Road, Waddington Lincoln, LN5 9NT Welsh School of Architecture, Bute Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3NB T: 029 2064 7484 T: 01522 720 022 T: 02920 875 980 www.burroughs.co.uk www.cowleytimberwork.co.uk www.dru-w.co.uk The Old Sawmill, Tregynon, Newtown, Powys, SY16 3PL T: 01686 650 777 www.coedcymru.org.uk 36 Ty^ Unnos - House in a Night supply chain efficiencies scheme cynllun effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi Tabitha Binding The Supply Chain Efficiencies Scheme is part of the Rural Development Plan for Wales 2007 – 2013, funded by the Welsh Government and the European Agricultural Fund for Rural Development. The key aim is to provide support for collaborative supply chain initiatives to develop new products, processes and technologies in the agriculture, food and forestry sector. Mae Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Y prif nod yw helpu mentrau cadwynau cyflenwi cydweithredol i ddatblygu cynhyrchion, prosesau a thechnolegau newydd yn y sector amaethyddol, bwyd a choedwigaeth. The two Supply Chain Managers for the three year Welsh Timber Supply Chain project are working to build and expand links within the Welsh timber supply chain, from forest to finished product. They provide information, encouragement and hands-on support to increase the use of Welsh timber, helping to develop a sustainable and thriving sector. Mae dwy Reolwraig y Gadwyn Gyflenwi ar gyfer prosiect tair blynedd Cadwyn Cyflenwi Pren Cymru yn meithrin ac ehangu cysylltiadau o fewn y gadwyn gyflenwi pren yng Nghymru, o’r goedwig i’r cynnyrch gorffenedig. Maent yn cynnig gwybodaeth, anogaeth a chymorth ymarferol i gynyddu’r defnydd o bren Cymreig, gan helpu i ddatblygu sector gynaliadwy a ffyniannus. Elements Europe Ltd. Kenton Jones Joinery Pontrilas Timber 21, Mile Oak Industrial Estate, Maesbury Road, Oswestry, Shropshire, SY10 8GA Henfaes Lane Welshpool Powys, SY21 7BE Pontrilas, Hereford, HR2 0BE T: 01691 656 591 T: 01938 554 789 T: 01981 240 444 www.elements-europe.com www.kentonjones.com www.pontrilastimber.co.uk Sourcing Timber Cyrchu Pren Branding and Marketing Brandio a Marchnata T: 01686 650 777 E: tabithab@coedcymru.org.uk Haf Roberts Timber for Construction Pren ar gyfer Adeiladu Housing from Welsh Timber Cartrefi o bren Cymru T: 029 2064 7490 E: hafr@coedcymru.org.uk 37 credits cydnabyddiaeth All illustrations and photos are the copyright property of the Project Team unless otherwise stated; Hawlfraint Tîm y Prosiect yw’r holl ddarluniau a ffotograffau oni nodir yn wahanol; 13 43, 45, 46 59, 60 05, 06, 62, 63 47 - 50 23, 25 01, 37, 44 55 - 58 03 26 15, 16 Coombs, S. Davies, R. Swallow Hill Hughes Architects Forestry Commission Picture Library Living Solutions McAteer, H. (www.dolwyddelan.org) Meade, R. (www.robbiemeade.com) Mike Watt Architects Stuefer, J. Thomas, R. Williams, S. (www.ambientcapture.co.uk) Author . awdur Haf Roberts Translation . cyfieithu Testun Cyf Graphic Design . dylunio graffeg Rob Thomas 67 38 Ty^ Unnos - House in a Night Printed by . argraffwyd gan infographics ltd Made of recycled paper in Wales Gwnaed yng Nghymru o bapur wedi ei ailgylchu
Similar documents
y Cynllun Gwyrdd
For there to be a future for the valleys, those people unable to commute easily to work because of their distance from Cardiff need local jobs in flourishing and vibrant communities w...
More information