Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau
Transcription
Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau
Mehefin 2015 Rhifyn 237 Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau dengmlwyddiant y Morlan GAIR Y BUGAIL Mae bywyd yn llawn profiadau newydd, ac felly y buodd hi yn ystod y dyddiau diwethaf yma. Sôn ydw i am y profiad o fynychu ‘Sasiwn y Chwiorydd’. Rhag ofn bod y teitl yna’n anghyfarwydd i rai ohonoch, gadewch i mi esbonio. Mewn un ystyr, rhywbeth etifeddol yw cyfarfod o’r fath, yn rhan o drefn ac arferiad ac yn tarddu o ddyddiau’r Maes Cenhadol yng Ngogledd Ddwyrain yr India. Dyddiau’r Blychau Cenhadol a’r ymwybyddiaeth fyw o gyfrifoldebau er mwyn sicrhau parhad y gwaith. Gyda dychweliad y Cymry olaf i wasanaethu ar y maes gwelwyd newid mewn syniadaeth a dealltwriaeth. Gyda’r penderfyniad i ymuno â CWM, Cyngor Cenhadaeth Fyd Eang, newidiwyd y gair ‘gyrru’ i ‘wahoddiad’, a dyna sydd wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd. Pobl ar wahoddiad yn gwasanaethu eglwysi ym mhob rhan o’r byd. Yn naturiol, mae’r berthynas ag eglwysi Gogledd yr India yn aros a chyda’r berthynas honno y cyfleoedd i wasanaethu a hynny mewn ffurf hynod o ymarferol. Ac felly mae’r casgliadau yn parhau a da dweud bod casgliad Sasiwn Chwiorydd y De yn agos at £10,000 a’r cyfanswm rhwng y tair Sasiwn yn £40,000. Swm anrhydeddus am y flwyddyn, fydd yn cael ei ddefnyddio i hybu’r dystiolaeth yn lleol ac yn fyd eang. Bydd canran o’r arian yn mynd at y gwaith o uwchraddio Ysbyty Dr Gordon Roberts yn Shillong, ysbyty ac iddi hanes ac enw da fel sefydliad meddygol. Bu’r prif swyddog meddygol gyda ni yn oedfa’r hwyr fis Gorffennaf diwethaf, a than ei arweiniad medrus, y gobaith yw uwchraddio’r adeiladau er mwyn darparu gwasanaeth teilwng i’r ardal arbennig hon o India. Ewch ar Youtube a theipiwch ‘Ysbyty Shillong yn Gymraeg’ ac fe gewch yr hanes. Fe fyddwn fel eglwys yn ymuno yn yr ymdrech i godi arian a bydd y wybodaeth yn ymddangos yn Perthyn trwy gydol y misoedd nesaf. Gyda’r newid pwyslais, gwelwyd newid yn natur siaradwyr y gwahanol Sasiynau. O ddyddiau yr hen genhadon ar gyfnodau o seibiant, yn teithio o un cyfarfod i’r llall yn sôn am y gwaith ac yn annog y chwiorydd i barhau yn eu casgliadau, i’r presennol, a gyda’r presennol, y ddealltwriaeth o’r lleol yn fywyd ac yn fywydau. Braf felly oedd cael bod yn bresennol yn Aberteifi a gwrando ar Steffan Morris, un o’n gweithwyr ieuenctid, yn rhannu ei brofiad, ond hefyd Carol Hardy sydd yn un o weithwyr yr Ystafell Fyw yng Nghaerdydd. Dau siaradwr hollol wahanol i’w gilydd a’r ddau yn gyfoethog 2 eu profiadau a’u hargyhoeddiad. I mi roedd gwrando ar Carol yn brofiad arbennig iawn wrth iddi sôn am waith yr Ystafell Fyw dan gyfarwyddyd Wynford Ellis Owen, ond yn fwy felly wrth iddi rannu ei stori bersonol a hithau yn alcoholig. Nid wyf am fanylu, y mae Carol yn fodlon dod atom i oedfa. Mi roedd hi’n stori ddolurus yn ymwneud â bywyd a’r natur ddynol ond yn stori hefyd am adferiad. Adferiad yr hunan, grym ffydd ond hefyd trugaredd a gwasanaeth yr Eglwys. Wrth i Carol gerdded llwybr troellog, caregog adferiad roedd pobl yr Eglwys yno, yn y cefndir, yn cynnal breichiau, yn ymarferol ofalus, yn adnabod bywydau. A ninnau newydd ddathlu’r Pentecost, onid dyna’r her i ni fel eglwys, yr her i adnabod a derbyn bywydau. Rhy aml o lawer mi rydan ni’n methu a hynny efallai oherwydd bod gennym ormod o gonsyrn am yr hunan, yn bobl ac yn drefniadaeth, neu weithiau oherwydd ein bod yn swil o fywydau eraill. Ond o feddu’r gallu i adnabod a thrugarhau, yna rydan ni’n sylweddoli gwir werth yr Eglwys, yn gymuned o bobl â chariad yn galon eu bywydau, yn un mewn addoliad ac yn un mewn gwasanaeth. Myth mawr ein cyfnod yw y dweud yma nad ydym angen ein gilydd fel Cristnogion; gogoniant ein bywydau yw ein dibyniad ar ein gilydd a dim yn fwy na gyda’r ddealltwriaeth o Gorff Crist ac undod yr Ysbryd. Sôn am deulu wnaeth Paul, a’ch gwaith chi a fi yw adnabod y teulu estynedig hwnnw a byw yn ysbryd yr adnabyddiaeth hynny. Bryd hynny y byddwn yn deall beth yw gwir ystyr eglwys! Mae’r Haf ar y gorwel, mwynhewch y dyddiau hir! Eifion Cymorth Cristnogol yn Aberystwyth Diolch i bawb a gyfrannodd at waith Cymorth Cristnogol yn y dre yn ystod mis Mai, yn arbennig y rheini a fu'n casglu o ddrws i ddrws neu'n mynychu'r cinio bara a chaws neu'r bore a'r noson goffi. Bu nifer yn cefnogi'r siop yn Seion drwy gyfrannu i'r stondin gacennau a gweithio am ychydig oriau yno. Bu'r ymdrech yn werth chweil eleni eto! 3 NEWYDDION Anfonwn ein dymuniadau gorau a’n cofion at… Sandra Jones a fu yn yr ysbyty yn ddiweddar, hefyd ein haelodau sydd mewn cartrefi preswyl neu yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i .. Emyr Rees Griffiths a Lauren Davies ar eu priodas ddydd Sadwrn 6 Mehefin yng Nghapel y Morfa; hefyd i Ann Jones (Stryd y Cae Glas) ac Andrew Roberts ar eu priodas yn Llandeilo ddydd Mawrth, 26 Mai; Lisa a Meirion Roberts ar enedigaeth mab – Seth Fenton Roberts, brawd i Theo a gorwyr i Dilys Stephens. Dymunwn yn dda iddynt fel teulu yn eu cartref yn Cul-ffordd, Llangawsai; hefyd i Beryl Davies ar enedigaeth ei thrydedd orwyres, Nel, merch i Gwawr a Dan Edwards Phillips. Cydymdeimlwn yn ddwys ag … Awel Jones, Ffion a Sioned a’r teulu ar farwolaeth Anthony – mab i Mrs Mary Jones a brawd i Valerie Jones; Elfed Parry ar farwolaeth ei chwaer, sef Mrs Megan Groutage, Birmingham; William Griffiths ar farwolaeth ei frawd, sef Mr Lewis Griffiths Rhydyfelin, hefyd â Margaret ei briod a Nia a Ceri a’u teuluoedd; Celia Jones ar farwolaeth ei chwaer yng nghyfraith, Mrs Eluned Whitfield, Y Barri; hefyd â Hefin Jones, Ffordd Ddewi, ar farwolaeth ei fam-gu, Mrs. Annie Thomas, Llambed. Llongyfarchiadau i … Dr. Brynley Roberts ar ddathlu hanner can mlynedd fel blaenor. Cafodd ei longyfarch yn y Sasiwn yng Nghapel y Morfa; Erin Gruffudd ar ennill yr ail wobr am ryddiaith Blwyddyn 10 ac 11 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili; Gwen Down ar ennill yr ail wobr am ysgrifennu barddoniaeth Blwyddyn 5 a 6 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili; 4 hefyd i’r plant a’r ieuenctid sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Eisteddfod Pantyfedwen Pontrhydfendigaid, Eisteddfod Morlan ac eisteddfodau lleol eraill. Dymunwn yn dda i’r ieuenctid sydd yn sefyll arholiadau gan ddymuno’n gorau iddynt yn y dyfodol. Dathlu Pen Blwydd Priodas Mr a Mrs William Williams, Ger-ywenallt, Waunfawr yn dathlu 72 mlynedd o briodas. Yn y llun hefyd mae eu cyfeillion, Mrs Bet Jones a Mrs Eirwen Parry Jones, ynghyd â’r gweinidog. CASGLIAD NEPAL Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd mor hael at y casgliad at Gronfa Argyfwng Nepal ar Suliau yn ystod mis Mai. Llwyddwyd i godi’r swm anrhydeddus o £745.85. 5 DATHLIADAU’R MORLAN Roedd penwythnos olaf mis Ebrill yn benwythnos pwysig iawn yng Nghanolfan Morlan, a’r Ganolfan yn dathlu ei degfed pen blwydd. Fel y gwyddom i gyd, mae’r 10 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn fwrlwm anhygoel o weithgareddau yn y Ganolfan, yn gyngherddau a dramâu, yn wersi dawnsio a chadw yn heini, yn oedfaon a thrafodaethau, yn weithgareddau i blant a phobol ifanc, ac yn lleoliad ar gyfer ei logi gan ddegau o fudiadau a sefydliadau lleol a chenedlaethol. Ac yn ystod y Ffair Ddathlu ddydd Sadwrn 25 Ebrill, cafwyd blas o’r gweithgareddau sy’n digwydd yno wrth i nifer o’r llogwyr gyfrannu at y dathliadau. 6 Ar y bore Sul, cafwyd oedfa ddathlu arbennig yn y Morlan, dan arweiniad Eifion a’r Parch Glyn Tudwal Jones, Gaerdydd. Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn i ddiolch ac i ddathlu’r Morlan, a bu’r plant yn brysur yn cyfleu eu gwerthfawrogiad hwy o’r hyn a olyga’r Morlan. Aeth rhai ohonynt ati i wneud casgliad bach tuag at waith y Morlan – diolch o galon iddyn nhw. A diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ac mor gyson dros y ddegawd ddiwethaf i sicrhau llwyddiant a dyfodol i’r ganolfan arbennig hon. Penwythnos yng Ngholeg y Bala Mehefin 19–21 i blant 8-11 oed Gogledd Ceredigion Enwau gyda blaendal o £10 i Eifion neu Eleri erbyn 3 Mehefin os gwelwch yn dda 7 PENNAETH NEWYDD CYMORTH CRISTNOGOL YNG NGHYMRU Mae’n braf iawn gallu nodi llongyfarchiadau Capel y Morfa i Huw Thomas, sydd newydd ei benodi yn Bennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru. Mae nifer ohonom yn yr ardal hon yn gyfarwydd iawn â Huw ac wedi dilyn ei hanes a’i lwyddiannau ers yn fachgen ifanc iawn. Wedi mynychu Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig, bu Huw yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen cyn dychwelyd i wneud gradd Feistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers hynny, bu’n gweithio gyda chwmni Airbus yng Nghasnewydd ac yn Rheolwr Prosiect gyda Sustrans yng Nghaerdydd; mae hefyd yn Gynghorydd Llafur ar Gyngor Caerdydd, bu’n aelod cabinet yno, ac yn ddiweddar fel y gwyddom, ef oedd ymgeisydd Llafur Ceredigion ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Ynghanol prysurdeb ei ddyddiau cyntaf yn ei swydd newydd, bu’n ddigon caredig i ateb rhai o gwestiynau Perthyn. Perthyn: Huw, llongyfarchiadau calonnog i ti ar dy benodi i’r swydd bwysig hon gyda Chymorth Cristnogol yng Nghymru. Ond wedi cyfnod gydag Airbus ac yna Sustrans, pam nawr troi at fudiad fel Cymorth Cristnogol – beth a’th ddenodd at y swydd hon? Huw: Ar yr olwg gyntaf, mae fy ngyrfa i yn sicr yn ymddangos yn un go eclectig! Ond rhywbeth sydd wastad wedi ngyrru i yw’r sefyllfa o anghyfartaledd ac anghydraddoldeb sy’n bodoli, boed yn ein gwlad ni, neu yn fyd eang. Dyna apeliodd gyda’r swydd hon – 8 cyfle i fod yn rhan o’r gwaith arbennig mae Cymorth Cristnogol wedi ei gyflawni yn mynd i’r afael â thlodi, a’r cyfle i barhau a chryfhau’r gwaith hwnnw, a sicrhau bod Cymru yn gwneud cyfraniad nodedig i’r frwydr yn erbyn anghydraddoldeb. Perthyn: Fyddet ti’n fodlon rhannu rhywfaint ynglŷn â’th daith ysbrydol a’th ffydd di dy hun? Huw: Fe ges i fagwraeth ar aelwyd lle roedd y ffydd Gristnogol yn hynod bwysig, gyda Mam yn chwarae’r organ yn eglwys Llanbadarn Fawr, a Dad yn cymryd yr ysgol Sul. Wrth i fi gwestiynu pawb a phopeth yn fy arddegau,fodd bynnag, gwanhaodd fy ffydd, yn sicr i’r pwynt o ddisgrifio fy hun yn agnostig. Yn Rhydychen yr ailddarganfyddais fy ffydd, gyda chymorth ffrindiau a helpodd fi i ateb rhai o ’nghwestiynau fy hunan. Rwy’n cofio’n glir y geiriau yn un o ffenestri Capel y Coleg – “Be of good courage; I have overcome the world.” Bu’r neges honno yn gefn mawr i mi yn y dyddiau hynny, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw. Mae yna ddimensiwn diwylliannol hefyd i addoli yng Nghymru dwi’n teimlo – y canu emynau, y cymdeithasu – sy’n bwysig iawn i mi. Byddai’n golled fawr i’n diwylliant ni petai’r traddodiad hwnnw yn cael ei golli. Perthyn: Rydym newydd nodi Wythnos Cymorth Cristnogol 2015 gyda’r digwyddiadau arferol megis casglu o ddrws i ddrws a chynnal siop yn y dref am wythnos. Beth yw’r her neu’r heriau mwyaf wyt ti’n eu gweld ar hyn o bryd i elusen fel Cymorth Cristnogol? Huw: Un o’r prif heriau yw cyrraedd cynulleidfa newydd. Mae’n rhaid i ni gydnabod fod niferoedd sy’n mynychu addoldai ar y Sul dan wasgfa. Dwi’n credu fod gan Cymorth Cristnogol rôl bwysig yn ceisio gwyrdroi hynny, ac mae angen i ni rywsut gael strategaeth i gyrraedd pobl sydd ddim eto wedi clywed ein neges ni. Mae twf tlodi hefyd yn her - tra bod hanner poblogaeth y byd yn byw ar lai na $2 y dydd, mae tlodi hefyd ar gynnydd yng Nghymru yn sgil y sefyllfa economaidd. Mae elusennau yn wynebu mwy o gystadleuaeth felly am adnoddau a chefnogaeth, ac mae’n rhaid i ni dangos pam fod gwaith Cymorth Cristnogol yn berthnasol o hyd. Perthyn: Oes gen ti rai syniadau penodol ynglŷn â datblygu’r elusen yn y dyfodol agos neu’r hir-dymor? Beth yw dy weledigaeth di ar gyfer y blynyddoedd nesaf yma? Huw: Dwi am dreulio’r wythnosau cyntaf yn gwrando ar y cefnogwyr a’n staff, i lunio llun clir o’r hyn sy’n gweithio’n dda, a beth 9 sydd angen ei wella. Yn y tymor hir, fy ngobaith yw gallu ehangu gwaith presennol Cymorth Cristnogol i gyrraedd cynulleidfa fwy yng Nghymru, ac yn sgil hynny gwneud cyfraniad pellach i ddileu tlodi. Dwi hefyd am sicrhau fod Cymorth Cristnogol, a’n cefnogwyr, yn gallu dylanwadu’n bositif ar bolisïau’r llywodraeth, er enghraifft ym meysydd newid hinsawdd a threthi teg. Mae yna lawer i’w gyflawni, ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fynd ati. Diolch yn fawr i ti Huw am gytuno i ateb ambell gwestiwn a hynny yn ystod dy ddyddiau cyntaf yn dy swydd newydd. Pob dymuniad da a bendith i ti yn y gwaith, a gobeithio’n fawr y gallwn dy groesawu atom i’r Morfa yn rhinwedd dy swydd cyn bo hir iawn. CYMRU A PHATAGONIA: 150 o flynyddoedd o etifeddiaeth 6 Mehefin, 2015, 9.15–4.00 Prifysgol Aberystwyth Neuadd Fawr, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Penglais) Cynhadledd yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: Sut mae’r Cymry a’u disgynyddion wedi llunio cymdeithas a thirwedd Patagonia? Sut wnaeth y Wladfa gyfrannu at hunaniaeth Gymreig? Beth yw arwyddocâd y Wladfa Gymreig heddiw? Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Hywel Griffiths 01970 622 674; hmg@aber.ac.uk neu Dr Lucy Taylor 01970 622 701 lft@aber.ac.uk 10 Mae’r capel bach wedi cael cot o baent i’w harddu ar gyfer y gwanwyn ac i groesawu’r aelodau a’r ffrindiau ffyddlon sy’n mynychu’r oedfaon bob Sul. Cafwyd gwasanaethau bendithiol yn ystod y mis; Eifion, ein gweinidog oedd yn yr oedfa gymun, a braf oed cael cwmni a gwasanaeth y Parchgn Dafydd Andrew Jones, Glyn Tudwal Jones a Meirion Morris o Gaerdydd. Diolch yn fawr iddynt oll. Mae hi bron a bod yn flwyddyn ers i Rhiannon, ein horganyddes, gael y ddamwain. Mawr yw ein diolch i Mary Jones Morris am drefnu fod organyddion o’r Morfa yn gwasanaethu yn eu tro. Hefyd, diolchwn fod cludiant i ddwy o’n haelodau o Drefechan i’r oedfaon. Mae pawb yn gwerthfawrogi’r trefniant yn fawr iawn. Diolch hefyd i’r porthorion sydd yn ymgymryd â’r gwaith o agor a chau’r drws, paratoi’r elfennau’r cymun a gofalu am restr y blodau o Sul i Sul. Dymuna Megan Evans ddiolch o galon i’r chwiorydd hynny sydd wedi cyfrannu yn hael eleni eto yn eu blychau cenhadol. Gyda rhodd hael gan ein ffrind, Mrs Margaret Jones o Danycoed, mae’r casgliad o £160 wedi ei anfon at Drysorydd yr Henaduriaeth erbyn y Sasiwn eleni a gafodd ei chynnal yn Aberteifi ar yr 21ain o Fai. Diolch i Kirsty, a fu yn aelod ffyddlon o’r Ysgol Sul yma, am ei help yn cyfrif yr arian a’i fancio! “Mewn llafur mae elw”. Roedd Mrs Catherine Jones, y Gelli, yn disgwyl mynd am brofion meddygol i Ysbyty’r Waun yn ystod y mis. Ond yn y cyfamser, cafodd damwain drwy syrthio ar y grisiau ac anafu ei braich yn ddrwg. Felly mae’r ymweliad â Chaerdydd wedi’i ohirio am y tro. Dymunwn wellhad buan iddi a chofiwn yn gynnes ati. 11 Y GYMDEITHAS: Y DAITH GERDDED Nos Wener, 14 Mai cerddodd dau ddwsin o’r aelodau o’r Morlan, drwy Blascrug, ar hyd Afon Rheidol i ardal Blaendolau. Er gwaethaf rhagolygon anffafriol y tywydd, llwyddwyd i gwblhau y rhan fwyaf o’r daith cyn i’r glaw gyrraedd, ac ni amharwyd ar y trefniadau. Erbyn diwedd y daith roedd pawb yn barod am y prydiau blasus a ddarparwyd yn Llety Parc a mwynhawyd y cyfle pellach i gymdeithasu yno. Cyflwynwyd diolchiadau i Rhys a Trish am yr holl baratoadau eleni eto. Cymdeithas y Morfa, 2014–15 Bu’r Gymdeithas dan lywyddiaeth Huw Owen Yn amrywiol, diddorol a llawen, Pan ddaw’r trip ym Mehefin A’r swper i ddilyn, Fe gaiff pobun ei ddewis o’r fwydlen. Bu Mary yn ysgrifennydd ardderchog Ac Ifor yn ofalus o’r geiniog, Gyda phrofiad y tri ’Doedd rhyfedd gen i Iddi ’leni fod mor odidog. Megan Evans 12 STOMP LYFRAU Er mwyn dathlu’r degawd drwy’r flwyddyn mae’r Morlan wedi trefnu 10 o ddigwyddiadau amrywiol er mwyn parhau’r dathliadau. Yr ail o’r rhain oedd y Stomp Lyfrau a gynhaliwyd nos Fercher 20 Mai, a chafwyd digwyddiad difyr dros ben. Gofynnwyd i 10 o unigolion i ddewis hoff lyfr y ddegawd, a rhoddwyd 3 munud yr un iddynt berswadio’r gynulleidfa mai eu cyfrol hwy ddylai dderbyn y bleidlais. Dyma’r 10 unigolyn a’u dewis o lyfr: Aled Morgan Hughes – Lladd Duw, Dewi Prysor Gwen Davies – One Moonlit Night, Caradog Prichard Dilwyn Roberts-Young – John Preis, Geraint Jones Elin Hefin – O Ran, Mererid Hopwood Enid Morgan – Bydoedd, Ned Thomas Jacob Elis – Not Quite White, Simon Thirsk Jane Aaron – A Hospital Odyssey, Gwyneth Lewis John Roberts – The Last Hundred Days, Patrick McGuinness Marion Löffler – Blasu, Manon Steffan Ros Sarah Down Roberts – Ffarwel i Freiburg, Angharad Price Wedi’r cyflwyniadau, cafodd pob aelod o’r gynulleidfa gyfle i fwrw pleidlais a dewiswyd y 4 cyflwynydd/cyfrol orau i fynd ymlaen i’r ail rownd. Dyma’r cyfrolau a gyrhaeddodd y rhestr fer: Enid Morgan – Bydoedd, Ned Thomas Jacob Elis – Not Quite White, Simon Thirsk Jane Aaron – A Hospital Odyssey, Gwyneth Lewis Marion Löffler – Blasu, Manon Steffan Ros Roedd cyfle i’r pedwar uchod ddarllen darn o’r gyfrol ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa ar eu dewis, cyn i bawb bleidleisio eto. A’r gyfrol/cyflwynydd buddugol y tro hwn? Wel, llongyfarchiadau calonnog i Enid Morgan a’i chyflwyniad o Bydoedd gan Ned Thomas. 13 Diolch yn fawr i’r holl gyfrannwyr yn y noson arbennig hon, ac i Deian am lywio’r cyfan gyda’i gadernid a’i ffraethineb arferol! Cofiwch nawr am ddigwyddiad nesaf y Deg dros Ddeg, sef Ar Dramp yn Dre, taith gerdded Morlan. Cynhelir hon eleni nos Fercher, 17 Mehefin, i gychwyn am 6 o’r gloch. Bydd William Troughton a Gareth Lewis yn arwain y daith i ddeg lle o ddiddordeb yn Aberystwyth. Croeso i bawb! Gwyl a Barbeciw Ysgolion Sul Gogledd Ceredigion Bore Sul, 28 Mehefin 11.15 tan 1.00 yn y Morlan Hwyl yng nghwmni Zoe Glynne Jones Ni fydd Ysgol Sul y bore hwn er mwyn cefnogi’r ŵyl 14 SASIWN Y MORFA Daeth rhyw 60–70 o bobl ynghyd i gyfarfodydd Sasiwn y De yn y Morfa 12–13 Mai. Ar ysgwyddau Eifion y disgynnodd y baich o wneud llawer o’r trefniadau lleol a rhaid diolch iddo am wneud y cyfan mewn modd mor effeithiol. Mae cartrefu Sasiwn am ddeuddydd yn dipyn o ymgymeriad ac yr oedd pawb a fu yno yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl y Morfa i sicrhau fod popeth yn rhedeg mor esmwyth. Diolch i Richard a Jane (y Richmond) am bob cydweithrediad; ac yn arbennig diolch i Jean a’i thimoedd o gynorthwywyr yn y gegin ac wrth y byrddau yn darparu te a choffi yn hael, ac wrth gwrs y te croeso llawn danteithion. Diolch ichi i gyd. Ond beth yw Sasiwn y De?, meddech chi. Yn syml, eglwysi’r enwad yn y De (heb anghofio Llundain) yn dod at ei gilydd i ystyried eu bywyd, eu hadnoddau a’u tystiolaeth, a hynny trwy wrando a thrafod adroddiadau byrddau a phwyllgorau. Boring? Wel ydy, weithiau, hyd nes inni sylweddoli ein bod yn trafod sut y gallwn barhau i wneud ein gwaith: beth yw gofynion ariannol cynnal y weinidogaeth a’r genhadaeth gartref (a dysgu hefyd beth yw’r gweithgarwch hwnnw heddiw)? Os na fydd digon o gyllid, onid oes galw arnom i feddwl am ffyrdd newydd o weithio? Diddorol oedd gweld fod un cynllun strategol (un o buzz words enwadol ein cyfnod) wedi ei wrthod am ei fod yn canolbwyntio gormod ar adeiladau a rhy ychydig ar weithgarwch. Mae’n rhyfedd fel y bydd ambell Sasiwn â naws neu awyrgylch arbennig yn ei nodweddu heb fod neb yn trefnu hynny; rhywbeth sy’n digwydd ydyw. Yn y Morfa daeth yn amlwg yn gynnar fod un thema i’w chlywed yn gyson mewn adroddiadau amrywiol a oedd yn codi calon y cynrychiolwyr. Dechreuodd gydag adroddiad am y cynnydd yn y gweithgarwch mewn un henaduriaeth gyda phlant ac ieuenctid, cynnydd a oedd i’w briodoli, fe gredent, i le canolog gweddi yn y paratoi ac yn y gwaith; yna adroddiad arall am glybiau plant a’r symud ymlaen i sefydlu clybiau ieuenctid, fod y plant yn ymateb yn frwd a bod ar gael niferoedd o wirfoddolwyr i gynorthwyo; ac yma eto yr oedd gweddi yn fan cychwyn pob cynllun; wedyn cafwyd hanes eglwysi ac ysbytai Jowai a Shillong, a lle canolog gweddi ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd. Rywsut fe gydiodd hyn oll yn ysbryd y Sasiwn, a phenderfynwyd mai cyfarfod gweddi fyddai gwasanaeth cloi’r Sasiwn. Eifion oedd y Llywydd erbyn hyn. Darllenodd o bennod gyntaf ail lythyr Paul at Timotheus a’n hannog i fynd ag adnod 14 gartref gyda ni. Yna, 15 gadawodd y cyfarfod yn agored i weddi a chawsom tua hanner awr o dawelwch myfyrgar heb i neb dorri gair yn gyhoeddus ond bod pawb yn ymwybodol fod yna weddïo dwys. Diolchwn i Eifion am osod cyweirnod i’r Sasiwn ac i’w lywyddiaeth. Dymunwn yn dda iddo yn ei dymor fel llywydd. Mae’n gofyn am ein cefnogaeth ac am ein gweddïau ninnau. Oedfa nos Fawrth, 12 Mai, yng Nghapel y Morfa, lle dechreuodd Eifion ar ei flwyddyn o Lywyddiaeth Sasiwn y De SASIWN GENHADOL Y CHWIORYDD Ddydd Iau, 21 Mai, cynhaliwyd y Sasiwn Genhadol yng Nghapel y Tabernacl, Aberteifi, ac estynnwyd croeso cynnes iawn i bawb gan eglwysi’r Ofalaeth sydd o dan ofal Y Parch. Llunos Gordon. Yng nghyfarfod y prynhawn cyflwynwyd siec o £9,500 gan Margaret Griffiths ar ran eglwysi tair Henaduriaeth y de i Nan Powell-Davies at waith y genhadaeth. Bydd hanner y casgliad yn mynd dramor i gynorthwyo Ysbyty Gordon Roberts yn Shillong yn yr India a’r hanner arall i hybu’r gwaith yma yng Nghymru trwy gyfrwng y gweithwyr plant ac ieuenctid, y gweithwyr cenhadol a’r canolfannau megis Coleg y Bala. Mae’r Morlan wedi derbyn arian o 16 gronfa Bwrdd y Genhadaeth yn y gorffennol. Wrth ddiolch am y cyfraniad hael eto eleni, adroddodd Nan eu bod fel adran eisoes wedi anfon £4000 o’r gronfa argyfwng tuag at apêl argyfwng Nepal. Y siaradwr yng nghyfarfod y prynhawn oedd Steffan Morris sydd wedi treulio cyfnod fel gweithiwr cenhadol yn Nyffryn Conwy ac sydd yn treulio blwyddyn eleni o dan hyfforddiant bugeiliol yn ardal Y Bala gyda’r Parch Hywel Edwards. I agor ei anerchiad, cyfeiriodd Steffan at yr adnod o’r drydedd bennod o Efengyl Ioan sydd yn sail i waith y genhadaeth eleni: “Canys Felly y carodd Duw y Byd….” Bu Steffan a’i wraig Gwenno yn cynnal y cwrs ieuenctid “Dilyn Fi” yn Y Bala a gwelwyd ffilm o’r gweithgareddau a’r bwrlwm a fu ar y cwrs hwnnw. Rhannodd Steffan ei dystiolaeth a disgrifiodd y modd y gwnaeth astudiaeth o fywyd Jona ei arwain at ei alwad ef i’r weinidogaeth a’r modd y mae cariad y Duw graslon a thrugarog yn ei gynnal yn y gwaith. Llywyddwyd y cyfarfod gan Y Parch Llunos Gordon. Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan Margaret Jones, Port Talbot a throsglwyddodd y llywyddiaeth am y tair blynedd nesaf i Ina Tudno Williams. Cafwyd gair o ddiolch a gwerthfawrogiad o’r gwaith ar ran Sasiwn y De gan y llywydd newydd, Y Parch Eifion Roberts. Gwahoddwyd Carol Hardy i sôn am ei gwaith yn y Stafell Fyw yng Nghaerdydd. Yn onest ac yn agored rhannodd Carol ei phrofiad fel alcoholig a’r modd y derbyniodd iachad trwy ras Duw. Cyfeiriodd at y modd y gwnaeth aelodau o eglwys y Tabernacl, Efail Isaf, ei chynnal a’i chynorthwyo yn ei hadferiad ac i ail-adeiladu ei bywyd. Daeth cyfle iddi gynorthwyo’r rhai sydd yn dioddef o bob math o ddibyniaeth trwy ymgeisio am swydd fel cydlynydd prosiect Estyn Llaw a Hyfforddwr Adferiad Stafell Fyw. Cawsom ein cyffwrdd, cawsom ein herio a’n cadarnhau fod ystyr y gair cenhadaeth yn eang, yn ymateb i anghenion ac yn gwireddu’r geiriau ar daflen wybodaeth Estyn Llaw – ‘O ddeall poen ein hunain, deuwn i ddeall poen y byd’, gwedd arall ar yr adnod “Canys felly y carodd Duw y byd” Diolch i aelodau Capel y Morfa ac Ebeneser am gyfrannu’n hael tuag at gyfraniad y genhadaeth eleni eto trwy gyfrwng y blychau cenhadol, cyfraniadau unigol a chyfraniadau’r Gymdeithas a’r Eglwys. Eleri Davies 17 Y Weddi Alzheimers Helpa fy ymwelwyr i fod yn oddefgar o’m dryswch ac i faddau fy afresymoldeb. Rho’r cryfder iddyn nhw gerdded gyda mi trwy niwl atgofion sydd bellach yn fyd i mi. Helpa nhw os gweli’n dda i ddal fy llaw ac aros am ychydig gyda mi, hyd yn oed os wy’n ymddangos fel petawn heb wybod eu bod yno. Helpa nhw i deimlo y bydd eu cryfder, eu cariad a’u gofal yn treiddio’n araf ac yn rhoi cysur i mi yn y dyddiau a ddaw, yn union pan fydd ei angen arnaf fwyaf. Gad iddyn nhw wybod, pan mae’n ymddangos mod i ddim yn eu hadnabod nhw, y gwnaf i. Fe geisiaf gadw eu calonnau’n rhydd o dristwch drosof, oherwydd dim ond am foment mae fy nhristwch i yn para ac yna mae’n cilio. Ac yn olaf O Dduw, gad iddyn nhw wybod mor bwysig yw eu hymweliadau i mi. Hyd yn oed drwy’r dryswch di-drugaredd hwn, mae eu cariad yn fy nghynnal. Cyfieithiad o’r Saesneg, Suzanne Rouke Diolch yn fawr i Elin Royles am y cyfieithiad o’r weddi arbennig uchod. Fe’i gwelodd hi wrth ymweld â pherthynas sydd mewn cartref bellach oherwydd ei bod yn dioddef o’r clefyd Alzheimers. Ein dymuniad yw y bydd y geiriau yn gymorth i eraill sy’n gweld teulu neu gydnabod yn dioddef yn yr un modd. Noson Goffi Adloniant a Stondin Gacennau Festri’r Morfa, nos Wener, 26 Mehefin 6.30–8.00 Trefnir gan Yr Ysgol Sul Elw at Apêl Ysbyty Shillong yn yr India 18 SWYDDOGAETHAU MEHEFIN 2015 Blaenor y Mis Eleri Davies Porthorion Arwel Jones, Mary C. Jones Rhys Jones, Hefina Davies-Wright Blodau'r Cysegr – Y Morfa 7 14 21 28 Rhys a Jenny Jones Eifion ac Alwen Roberts Carys Davies Nancy Lovatt Blodau Ebeneser 7 14 21 28 Megan Evans Catherine Jones Megan Morris Denise Morgan Cynorthwywyr Llestri Cymun 7 Dilys Lloyd, Trish Huws, Mattie Jones, Enid Jones, Elsbeth Jones Cynorthwywyr Ariannol 7 14 21 28 Hywel Lloyd, Huw Chambers Hefina Davies-Wright a Wynford Evans Menna Evans ac Elvey MacDonald William a Mair Griffiths Tregerddan 28 Dan ofal Geraint Lewis Jones, Gwerfyl Pierce Jones, Brian Thomas Golygyddion y mis hwn yw Gwenan Creunant ac Ann Hawke. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Gorffennaf / Awst o PERTHYN at Gwenan (gwc@aber.ac.uk) neu Ann (apo@cymru.ac.uk) erbyn dydd Gwener, 19 Mehefin os gwelwch yn dda. Gwae inni wybod y geiriau heb adnabod y Gair A gwerthu ein henaid am doffi a chonffeti ffair. Gwenallt 19 DYDDIADUR MEHEFIN 2015 GWASANAETHAU’R SUL 10.00 a 6.00 yn y Morfa / Seion / Bethel; 2.15pm yn Ebeneser 7 14 21 28 Bugail (cymun yn y nos) Bugail Parch R Alun Evans (bore a phrynhawn); Parch Raymond Jones (nos) Parch Cynwil Williams CYFARFODYDD WYTHNOSOL – nos Iau am 7.00 pm CYLCH GWEDDI A CHOFFI – bore Mawrth am 10.30 CINIO BARA A CHAWS – 1 Mehefin, Canolfan y Waun, Waunfawr TRIP Y GYMDEITHAS – 3 Mehefin, i ardal Talgarth a Choleg Trefeca. Os hoffech fynd ar y trip, rhowch eich enwau cyn gynted ag sydd bosibl i Hefin Jones os gwelwch yn dda. 20
Similar documents
Perthyn Mai 2014
gymorth hwn felly y gallwn fyw bywyd glân a phur. Sut mae derbyn nerth yr Ysbryd Glân? Yn yr un ffordd ag y derbyniodd y disgyblion Ef ar Ddydd y Pentecost, sef (a) drwy ddisgwyl amdano, (b) bod yn...
More informationRhifyn Haf 2009 - UKunitarians.org.uk
“O leia’ mae’r larwm yn gweithio, ac yn gwneud ei waith,” meddai Lewis Rees. “Dwi ddim yn credu bod gan y bobol yma sy’n ceisio torri mewn i’r capel ddim byd yn ein herbyn ni fel cynulleidfa na Und...
More information